Newyddion S4C

Sgriniau cyffwrdd i brofi a yw ceffylau yn dioddef o iselder

Dr Sebastian McBride, Naomi Banister ac Alice Catherine O'Reilly o Brifysgol Aberystwyth
Dr Sebastian McBride, Naomi Banister ac Alice Catherine O'Reilly o Brifysgol Aberystwyth

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn defnyddio sgriniau cyffwrdd i weld a ydi ceffylau yn dioddef o iselder.

Yng nghanolfan ceffylau Prifysgol Aberystwyth, bydd ceffylau yn defnyddio sgriniau cyffwrdd awtomataidd pwrpasol i brofi eu gallu gwybyddol.

Maen nhw’n credu y gall ceffylau ddioddef iselder gan ymateb fel bodau dynol, gyda symptomau fel ymddygiad encilgar, syllu a diffyg symud.

Bydd gofyn i’r anifeiliaid yng nghanolfan ceffylau Prifysgol Aberystwyth baru gwahanol ddelweddau ar y sgriniau a chael eu gwobrwyo gyda bwyd pan fyddant yn eu hadnabod yn gywir.

Drwy wneud hyn bydd yr ymchwil yn dechrau adnabod yr anifeiliaid hyn a gweithio allan pa elfennau o’u hamgylchedd sy’n achosi iselder.

Dywedodd Dr Sebastian McBride sy’n arwain yr ymchwil yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth bod iselder ymddygiadol yn anodd ei ddeall mewn ceffylau. 

“Os edrychwch chi ar geffyl mewn stabl a'i ben i lawr, a yw’n gysglyd?” gofynnodd. 

“A yw'n cysgu neu'n gorffwys? Neu a yw mewn cyflwr o iselder ymddygiadol? 

“Mae’n anodd ei adnabod yn glinigol ac mae’n rhywbeth yr ydyn ni’n gweithio arno fe i wella ein dealltwriaeth.

“Mae llawer o geffylau’n cael eu cadw mewn amgylchedd lle nad yw eu hanghenion ymddygiad dyddiol yn cael eu diwallu neu lle maen nhw’n profi pyliau rheolaidd o straen. 

“Mae'n hysbys bod sefyllfaoedd o straen cronig o'r fath yn cynhyrchu newidiadau niwroffisiolegol a all achosi ystod o symptomau ymddygiadol. 

“Yn fwy diweddar, awgrymwyd y gallai rhai ceffylau fod yn ymateb i amgylcheddau llawn straen trwy iselder ymddygiadol.

“Un o nodau’r astudiaeth hon yw datblygu dull i nodi a yw iselder ymddygiadol mewn ceffylau yn bodoli, ac os ydyw, dechrau asesu pam mor gyffredin yw e o fewn poblogaethau ceffylau. 

“Mae’n bosibl defnyddio mesurau ffisiolegol, newidiadau yng nghyfradd curiad y galon neu bwysedd gwaed i ymchwilio i gyflwr meddwl ceffylau ond yn aml mae'n anodd dehongli'r data hwn oherwydd gall yr un ymateb corfforol gael ei achosi gan wahanol gyflyrau.

“Mae tasg paru-i-sampl eisoes wedi’i dilysu mewn ceffylau, felly mae ganddi botensial cryf i ymchwilio i’r achosion presennol o iselder ymddygiadol mewn ceffylau. 

“Nod yr astudiaeth hon, felly, yw datblygu’r dechneg a dechrau proses o sefydlu gwaelodlin ystadegol ar gyfer ceffylau ar draws brid, rhyw ac oedran.”

 ‘Cwsg gwael’

Mae’r academyddion hefyd yn bwriadu asesu sut mae newidiadau bach yn amgylchedd y ceffyl, fel stablau neu ddillad gwely newydd, yn effeithio ar eu cwsg.

Mae ymchwil cyfredol yn asesu a yw perfformiad yn y ‘dasg gwahaniaethu rhwng dau ddewis’ yn cael ei leihau yn ystod cwsg toredig.

Mae gan hyn oblygiadau i les a gallu ceffylau, er enghraifft mewn neidio arddangos.

Ychwanegodd Dr McBride: “Mae cwsg yn sylfaenol bwysig i les pob anifail, ond anaml y byddwn ni’n ystyried cwsg wrth greu’r amgylcheddau gorau posibl i’r anifeiliaid yn ein gofal. 

“Mae gallu mesur cwsg yn gywir yn ogystal â chanlyniadau gwybyddol cwsg gwael, felly, yn sylfaenol hanfodol i'r maes ymchwil pwysig hwn.

“I geffylau, mae gan newidiadau bach yn eu hwsmonaeth y potensial i effeithio’n fawr ar ansawdd a maint eu cwsg. 

“Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys newid goleuo, gwely a thymheredd, faint o gyswllt cymdeithasol yn ogystal ag amgylcheddau cysgu newydd, fel stabl newydd ychydig cyn cystadleuaeth. 

“Mae’n bwysig ein bod yn dechrau deall sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gwsg y ceffyl fel y gallwn greu amgylcheddau gwell iddynt fyw ynddynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.