Newyddion S4C

Llanast ar hyd Afon Taf 'yn rhoi'r argraff anghywir' o Gaerdydd i ymwelwyr

Y Cynghorydd Kanaya Singh / sbwriel Afon Taf
Y Cynghorydd Kanaya Singh / sbwriel Afon Taf

Mae llanast ar hyd Afon Taf yng Nghaerdydd yn rhoi argraff anghywir o'r brifddinas i ymwelwyr, yn ôl cynghorydd.

Dywedodd aelod Cyngor Caerdydd dros ward Glan yr Afon, Kanaya Singh fod y sbwriel ar hyd yr afon i gyd, ond ei fod yn arbennig o amlwg wrth Stadiwm Principality.

Mae papur toiled, caniau cwrw a bagiau plastig yn amlwg ar yr arglawdd (embankment) mewn sawl man, meddai.

Mae llawer o'r gwastraff yn cyrraedd yr arglawdd o'r afon, ond mae llawer o'r hyn sydd yno yn sbwriel sydd wedi ei daflu gan bobl.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn y broses o lanhau cymaint o'r gwastraff maen nhw'n gallu o du allan i Stadiwm Principality.

Ond ni fydd proses glanhau fwy trylwyr yn gallu digwydd tan fis Mawrth.

Image
Sbwriel ar hyd Afon Taf tu allan i Stadiwm Principality
Sbwriel ar hyd Afon Taf tu allan i Stadiwm Principality.

"Mae'n siom mai dyma'r peth cyntaf, neu un o'r pethau cyntaf mae pobl yn gweld [pan maen nhw'n ymweld â Chaerdydd], sydd yn rhoi'r argraff hollol anghywir iddyn nhw," meddai'r Cynghorydd Singh.

Wrth gyfeirio at Glan yr Afon, dywedodd y cynghorydd Llafur fod y sbwriel yn gwaethygu pan mae digwyddiadau mawr yn y ddinas.

Mae'n dadlau bod y gymuned angen criwiau sbwriel sydd ar gael pan fydd "degau ar filoedd o bobl" yn cerdded trwy'r ardal ar ddiwrnod gemau chwaraeon.

"Mewn ardal fel Glan yr Afon, sydd mor agos i ganol dref, mae gennym nifer o ddigwyddiadau chwaraeon sy'n dod a nifer o bobl," meddai.

"Dwi'n meddwl bod angen mwy o bresenoldeb gwasanaethau ar gyfer y digwyddiadau."

Image
Sbwriel ar hyd Afon Taf tu allan i Stadiwm Principality

Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd angen iddyn nhw osod system rhaff diogelwch er mwyn gallu glanhau'r arglawdd ger y stadiwm.

"Oherwydd bod yna lethr mae angen rhaff arbennig er mwyn clirio'r ardal," meddai llefarydd.

"Rydym yn gosod hyn ar ben y llethr er mwyn i'r gwaith gychwyn.

"Bydd hyn yn digwydd ym mis Mawrth, ond os ydi materion iechyd a diogelwch yn cael eu datrys cyn hynny, fe allai fod yn gynt na fis Mawrth."

Ychwanegodd y cyngor fod llawer o'r sbwriel o ganlyniad i bethau fel "gwylanod yn torri bagiau ar agor" a bod hynny yn arwain at "sbwriel ar y stryd."

Yn ôl arolwg sbwriel strydoedd a gafodd ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus, mae 83.3% o strydoedd Caerdydd yn cael eu hystyried i fod ar lefel dderbyniol.

Mae canfyddiadau arolwg system rheoli archwilio amgylchedd lleol 2024-25 (LEAMS) yn dangos bod cynnydd yn nifer y strydoedd gradd ‘C’ a ‘D’ ar draws y ddinas.

Mae stryd gradd ‘C’ yn cyfeirio at stryd sydd â sbwriel amlwg, yn ôl adroddiad Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae adroddiad LEAMS hefyd wedi canfod fod Caerdydd wedi gweld cynnydd yn nifer y strydoedd ‘A’ a ‘B+’.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.