
'Dwi'n dy garu di': Dyn a gafodd ei ryddhau gan Hamas yn cwrdd gyda'i deulu o Gymru
"Y peth cyntaf wnes i oedd taflu fy mreichiau a'i amgylch, rhoi cwtsh iddo a dweud fy mod yn ei garu. Ei eiriau cyntaf i mi oedd 'dwi'n sori'."
Dyna sut mae Steve Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr yn cofio cwrdd gyda'i frawd-yng-nghyfraith Eli Sharabi am y tro cyntaf wedi iddo gael ei ryddhau gan Hamas ar ôl 16 mis.
Cafodd gwraig a merched Eli Sharabi eu lladd gan Hamas yn ystod yr ymosodiad ym mis Hydref 2023, ond nid oedd yn gwybod hynny nes iddo gael ei ryddhau.
Roedd teulu Mr Sharabi wedi bod yn ymgyrchu am dros flwyddyn iddo gael ei adael yn rhydd.
'Cyfnod anodd'
Fe wnaeth Steve Brisley ddarganfod fod Eli dal yn fyw diwrnod yn unig cyn iddo gael ei ryddhau, pan gyhoeddodd Hamas enwau'r rhai y byddai'n cael eu gadael yn rhydd i Israel ar 8 Chwefror.
"Mae wedi bod yn anodd iawn, ond gobaith oedd yr unig beth oedd ein yn cadw ni i fynd," meddai wrth ITV Cymru.
"Roedd rhaid i ni frwydro nes y diwedd, beth bynnag oedd yn mynd i ddigwydd.
"Pe bai Eli yn dychwelyd adref i gael ei gladdu neu aduno gyda ni. Diolch byth mai aduno gyda ni oedd beth ddigwyddodd."

Pan gafodd y gwystlon eu rhyddhau ar ddechrau’r mis dywedodd Eli ei fod yn edrych ymlaen at weld ei deulu eto, yn enwedig ei wraig a'i blant.
Fe wnaeth ddarganfod eu bod wedi marw pan ofynnodd i filwr o Israel "Ydy Lianne a'r plant yn disgwyl amdanaf?"
Roedd Eli, Lianne a'u plant Noiya ac Yahel yn byw yn Kibbutz Be'eri.
'Y sbarc wedi mynd o'i lygaid'
Gwyliodd Steve Brisley Eli ef yn cael ei ryddhau gyda dau wystl arall ar y teledu ar 8 Chwefror.
Ar y pryd dywedodd ei fod wedi synnu gan gyflwr ei frawd-yng-nghyfraith.
“Fe wnaeth e daro fi ei fod mor amlwg faint o bwysau yr oedd e wedi’i golli. Hynny yw, roedd y dillad yn hongian oddi arno. Gallwch chi weld yr esgyrn ar ei ddwylo.
“Y peth wnaeth fy nharo i oedd ei wyneb. Mae'n wan, ac mae cylchoedd tywyll o amgylch ei lygaid.
“Mae Eli wastad wedi bod yn ddyn hapus, hapus iawn ac mae’n gwenu gyda’i wyneb cyfan a’i lygaid.
“Roedd y sbarc wedi mynd o’i lygaid, dyna’r peth dwi’n meddwl oedd yn peri y gofid mwyaf i mi.
“Nid dyna oedd yr Eli yr wyf yn ei adnabod ac yn ei garu. Yn amlwg, roedd effaith y 491 diwrnod i'w weld dros ei wyneb i gyd."
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer ei fod “wedi siomi” o weld “cyflwr bregus” Eli Sharabi ac amgylchiadau pan gafodd ei ryddhau.
“Fel nifer eraill roedd teimlad o ryddhau pan ryddhawyd Eli Sharabi ond roeddwn wedi fy siomi o weld ei gyflwr bregus ac amgylchiadau ei ryddhau.
“Ar ôl cyfarfod â’i deulu rwy’n gwerthfawrogi’r boen ddofn y maen nhw wedi’i ddioddef ac mae fy meddyliau gyda nhw.”