
Pêl-droed: Cymru i wynebu Lloegr yn yr Hydref
Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Wembley mewn gêm gyfeillgar yn yr Hydref - y tro cyntaf i'r timau gwrdd ers Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ym mhrifddinas Lloegr ar nos Iau 9 Hydref am 19:45.
Cyn hynny, bydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Canada yn Stadiwm Swansea.com ar nos Fawrth 9 Medi am 19:45.
Dyma fydd y tro cyntaf i dîm dynion Cymru chwarae yn Abertawe ers 2020, pan wnaethon nhw chwarae'r Unol Daleithiau.
Doedd dim torf yn y gêm yna, oherwydd ei bod yn ystod y pandemig.
2013 yn erbyn Croatia oedd y tro diwethaf i dorf wylio Cymru yn Abertawe, a roedd Craig Bellamy yn chwarae yn y gêm honno.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn erbyn Canada oedd buddugoliaeth o 1-0 yn Wrecsam ym mis Mai 2004, â’r gêm ym mis Medi fydd y pedwaredd tro i'r timau wynebu ei gilydd.

Mae Cymru a Lloegr wedi chwarae yn llawer mwy aml, gan gynnwys gêm gyfeillgar yn ystod pandemig COVID-19, ac ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2016.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae o flaen torf yn Stadiwm Wembley oedd dan arweiniad Gary Speed ym mis Medi 2011, gyda cholled 1-0 mewn gêm rownd ragbrofol UEFA EURO 2012.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gemau yn erbyn Canada a Lloegr yn cael ei rhyddhau maes o law.