Gwasanaethau deintyddol GIG Cymru ‘ar fin syrthio oddi ar glogwyn’
Mae cymdeithas ddeintyddol wedi dweud y gallai gwasanaethau deintyddol y GIG “syrthio oddi ar glogwyn” dros y blynyddoedd nesaf.
Mae deintyddion wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn hallt gan ddweud eu bod nhw’n bod yn anonest ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu eu gwasanaethau yng Nghymru.
Mewn llythyr at y llywodraeth dywedodd cymdeithas ddeintyddol BDA Cymru bod gweinidog y llywodraeth yn gyfrifol am “sbin, hanner-gwirioneddau” a bod yn fwriadol aneglur.
Maen nhw’n pryderu am y modd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu triniaeth pobl drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Y gwir amdani yw bod gweithgarwch deintyddol y GIG wedi arafu ac efallai ei fod ar fin disgyn oddi ar y clogwyn os nad [yw’r llywodraeth] yn mynd i'r afael yn fuan iawn â'r materion yr ydym ni ac eraill wedi'u codi dro ar ôl tro,” medden nhw.
Ym mis Ionawr fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig codiad cyflog o 6% i ddeintyddion y GIG os oedden nhw’n bodloni amodau newydd.
Ond dywedodd cymdeithas ddeintyddol Prydain bod y cynnydd cyflog yn golygu toriad mewn gwirionedd am nad oedd yn cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn costau wrth drin cleifion y GIG.
Mewn llythyr ddydd Mawrth dywedodd y corff: “Lle rydyn ni'n dod ar draws sbin, hanner gwirioneddau neu iaith fwriadol aneglur (doublespeak) rydyn ni’n mynd i dynnu sylw ato.
“Mae deintyddiaeth y GIG yng Nghymru ar groesffordd, ac rydyn ni’n credu bod angen gonestrwydd ar y proffesiwn hwn a’r cleifion rydym yn eu trin.”
‘Gweithio’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi treulio 13 mis yn gweithio gyda’r BDA i ddylunio cytundebau newydd.
Bydd cyfle i ymateb i’r cynigion newydd yn fuan fel rhan o ymgynghoriad, medden nhw.
"Rydym yn gweithio i sicrhau bod contract deintyddol y GIG yn decach i gleifion ac i'r proffesiwn deintyddol,"medden nhw.
"Rydym wedi treulio 13 mis yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddylunio'r contract newydd.
"Byddwn yn cyflwyno'r cynigion ar gyfer ymgynghoriad cyn cwblhau unrhyw gontract newydd."
“Mae hyn yn annerbyniol ac mae'r proffesiwn deintyddol wedi'i siomi'n arw gan y datblygiad hwn,” medden nhw.