'Anrhydedd': 10 o wirfoddolwyr yr Urdd i deithio i India
Bydd 10 Cymraes yn teithio i India gyda'r Urdd er mwyn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ynghyd â merched mewn perygl fel rhan o brosiect #FelMerch.
Cafodd y 10 eu dewis o blith 140 o ymgeiswyr ac fe fyddan nhw'n gweithio gydag elusen Her Future Coalition (HFC) yn Kolkata sydd yn nwyrain India.
Yn ystod y daith bydd y merched yn ymweld â'r ddinas ac yn cynnal sesiynau ym mhrosiectau cymunedol HFC, meddai'r Urdd.
Fe fyddan nhw yn "cynnig cefnogaeth i blant a merched bregus, gan gynnwys rhai sydd wedi goroesi masnachu a mathau eraill o drais ar sail rhywedd."
Y merched fydd yn mynd ar y daith i India yw Jaya Dodiya, Elinor Roderick, Mabli John a Seren Morris o Gaerdydd; Enlli Davies o’r Bala; Ffion Roberts o Gaerffili; Keira Bailey-Hughes o Fethesda, Laurie Thomas o Gaerfyrddin, Martha Owen o’r Felinheli; Martha Thomas o Lambed.
Dywedodd Martha Thomas ei fod yn “anrhydedd mawr i mi gael fy newis fel un o ddeg Cymraes sy’n mynd i India gyda’r Urdd."
Ychwanegodd: “Mi fydd yn brofiad bythgofiadwy a fedra’i ddim aros i gwrdd â rhai o ferched a phlant Kolkata a chyfrannu tuag at waith ysbrydoledig Her Future Coalition.
"Bydd hefyd yn gyfle i ni ddysgu gan bob cymuned am eu diwylliant a dod yn llysgenhadon i HFC ar ôl dychwelyd adref.”
'Rhannu iaith a diwylliant'
Cafodd y bartneriaeth rhwng yr Urdd a Her Future Coalition ei lansio yn ystod blwyddyn Cymru yn India 2024, er mwyn hyrwyddo gweithgareddau sy’n cryfhau'r berthynas rhwng India a Chymru.
Wrth barhau gyda'r perthynas rhwng y ddwy wlad fe fydd y grŵp o Gymru hefyd yn rhannu iaith a diwylliant Cymru yn seiliedig ar gynllun ‘Chwarae yn Gymraeg’ yr Urdd wrth gynnal gweithgareddau hwyliog mewn ysgolion, fel Ysgol EkTara.
Wrth baratoi ar gyfer eu taith, mae’r gwirfoddolwyr o Gymru wedi bod yn codi arian ac yn gobeithio cyfrannu dros £5,000 er mwyn cefnogi gwaith HFC ymhellach i atal trais yn erbyn merched drwy addysg.
Fe fydd y gwirfoddolwyr hefyd yn ymweld â Kidderpore, sy’n ganolfan yn un o ardaloedd ‘golau coch’ Kolkata.
Fe wnaeth yr Urdd ymweld â'r ddinas am y tro cyntaf yn 2003, a arweiniodd at daith gyfnewid rhwng aelodau o’r Urdd a merched o loches yn un o ardaloedd ‘golau coch’ y ddinas.
Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis ei bod yn ddiolchgar i allu parhau gyda'r perthynas gydag elusennau Kolkata.
“Mae gan yr Urdd hanes hir a balch o gyflawni gwaith dyngarol, a chredwn yn gryf mewn creu cysylltiadau rhyngwladol a lledu gorwelion pobl ifanc Cymru," meddai.
“Ugain mlynedd yn ôl, sefydlodd yr Urdd bartneriaeth gyda dinas ac elusennau Kolkata. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, edrychwn ymlaen at ailddechrau ein rhaglenni gwirfoddoli rhyngwladol trwy fynd â deg o ferched i India er mwyn cefnogi gwaith dyngarol arbennig Her Future Coalition.
'Lansiwyd ein prosiect #FelMerch er mwyn grymuso merched Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogol o waith Her Future Coalition i sicrhau newid parhaol yn India, un ferch ar y tro.”