Newyddion S4C

Franco Smith: ‘Hoffwn hyfforddi rygbi rhyngwladol eto’

16/02/2025
Franco Smith

Mae un o’r enwau sy’n cael eu cysylltu gyda swydd prif hyfforddwr rygbi dynion Cymru wedi dweud y byddai’n “hoffi hyfforddi rygbi rhyngwladol eto”.

Roedd Franco Smith o Dde Affrica yn ateb cwestiynau cyn gêm ei dîm Glasgow Warriors  yn erbyn y Dreigiau yng Nghasnewydd brynhawn dydd Sul yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Mae Smith yn un o’r enwau sydd wedi dod i’r amlwg i olynu Warren Gatland a gollodd ei swydd yn gynharach yn yr wythnos ar ôl i Gymru golli 14 gêm ryngwladol yn olynol.

Mae Smith dan gytundeb gyda Glasgow Warriors tan 2026 ac wedi hyfforddi Yr Eidal yn y gorffennol. 

Roedd hefyd wedi chwarae i dîm Casnewydd yn 1999.

Dywedodd Smith: “Hoffwn hyfforddi rygbi rhyngwladol eto, dwi'n meddwl bod y rhan fwyaf o hyfforddwyr yn breuddwydio am hynny.

"Am y tro rwy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n rhaid ei wneud heddiw.

"Yn amlwg rwy'n dal i fod dan gytundeb gyda Glasgow Warriors ac ia, dy’ chi byth yn gwybod.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.