Heddlu'r Gogledd yn ystyried symud pencadlys
Mae pennaeth Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad yw’r pencadlys yn addas ar gyfer gwaith y llu bellach.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman bod yr adeilad ym Mae Colwyn yn “heneiddio” a “ddim wedi’i ddylunio ar gyfer plismona yn y 21ain Ganrif”.
Daw wedi i’r cynghorydd sir yng Nghonwy, Louise Emery, ddweud mewn cyfarfod cabinet bod y llu yn dymuno symud o’u pencadlys, sydd wedi’i leoli yng Nglan y Don, ger Parc Eirias.
Cafodd y bencadlys ei adeiladu yn 1974, ac ar hyn o bryd mae’n weithle i tua 250 o staff a swyddogion.
Yn y cyfarfod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, dywedodd y Cynghorydd Emery, aelod o'r panel troseddau, fod gan yr heddlu brosiect ar y gweill i asesu symud i adeilad mwy modern, gydag ystod eang o opsiynau'n cael eu hystyried.
Yn yr un cyfarfod, dywedwyd y byddai adeilad yn Llanelwy yn dychwelyd i feddiant y llu yn 2028 ar ddiwedd cytundeb.
Mae’r llu yn berchen ar sawl adeilad ym Mharc Busnes Llanelwy, gan gynnwys y Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd, yr Uned Troseddau Ffordd, dalfa, swyddfeydd, yr adran hyfforddi a’r bencadlys ranbarthol.
Ac yn ddiweddarach, fe wnaeth y Prif Gwnstabl Blakeman gadarnhau bod y llu yn ystyried symud pencadlys.
Dywedodd: “Gwyddom fod rhannau o’n hystâd yn heneiddio ac nad ydynt wedi’u dylunio orau i ymateb i’r anghenion o blismona ein cymunedau yn yr 21ain Ganrif.
“Gallent fod yn llawer mwy cynaliadwy ac effeithlon, yn ariannol ac yn amgylcheddol.
“Fel y cyfryw, mae’r heddlu yn adolygu ei ystâd yn barhaus, a bydd ein pencadlys yn rhan o’r broses honno.
“Bydd ein cymuned bob amser wrth galon popeth a wnawn, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i symud plismona i ffwrdd o Fae Colwyn.”