Newyddion S4C

'Trasig': Cofnodi achosion o sgyrfi mewn plant yng Nghymru

14/02/2025
Plentyn yn yr ysbyty

Mae meddyg blaenllaw wedi rhybuddio bod achosion o sgyrfi mewn plant wedi eu cofnodi yng Nghymru unwaith eto, gan gymharu'r  sefyllfa â ‘rhywbeth allan o hen lyfr am forladron.’ 

Wrth siarad o flaen Pwyllgor Iechyd y Senedd, dywedodd dirprwy swyddog Cymru'r Coleg Pediatreg Brenhinol ei bod wedi synnu ar ôl gweld achosion o sgyrfi mewn plant mewn “gwlad ddatblygedig” fel Cymru. 

Dyw rhai plant ddim yn cael digon o fitaminau gan nad ydynt yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau, meddai Dr Dana Beasley. 

“Dwi erioed wedi meddwl y byddwn i’n gweld hwn yn fy oes i fel paediatregydd mewn gwlad ddatblygedig,” meddai. 

“Dwi wedi gweld plant â diffyg fitamin C: sgyrfi. Mae’n drasig,” meddai. 

Dywedodd bod achosion o brinder fitamin C ymysg plant yn “brin ond rwyf wedi ei weld e, mae ‘na sawl achos.” 

Ychwanegodd bod prinder fitamin D ymysg plant yn hyd yn oed yn fwy amlwg. 

“Mae’n dorcalonnus i weld bod ein plant yn sâl – da ni’n eu hatal nhw rhag cael bywyd iachus cyn eu bod nhw hyd yn oed wedi dechrau’r ysgol.”

'Peri gofid'

Mae sgyrfi yn glefyd all achosi blinder a gwaedu o'r corff, ac fe allai arwain at farwolaeth os nad yw’n cael ei drin. 

Dywedodd Dr Beasley ei bod hefyd yn bryderus am ffitrwydd plant Cymru. 

“Fe ddylai plant dros bump oed a phobl ifanc symud am awr y dydd, pob dydd,” esboniodd. 

Ond dywedodd mai dim ond 20% o fechgyn ifanc a 14% o ferched ifanc sydd yn ymarfer corff am o leiaf awr y dydd yng Nghymru. 

“Mae’n peri gofid,” meddai.

'Effaith ddinistriol'

Mae dros chwarter o blant pedair neu bump oed yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, yn ôl ystadegau diweddaraf ar gyfer 2022/23.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, bod yr amser y mae plant yn ei dreulio ar eu ffonau symudol a thabledi yn cael effaith “ddinistriol” ar eu hiechyd corfforol, meddylion, addysgol a sgiliau cyfathrebu.

Fe ddywedodd hefyd bod teuluoedd yn cael eu gorfodi i brynu bwyd sydd ddim yn iachus gan ei fod yn rhatach. 

Fe gyfeiriodd at adroddiad gan y Food Foundation oedd yn nodi y byddai bwyta 1,000 o galorïau iachus yn costio £8.80 o gymharu a bwydydd llai iachus fyddai’n costio £4.30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.