Yr heddlu’n credu bod bachgen 15 oed wedi ei fwrw gan gar ‘yn fwriadol’
Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw’n credu bod plentyn wedi ei fwrw yn fwriadol â char cyn i rywun ddwyn ei feic.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 18 oed o’r Tyllgoed yng Nghaerdydd ar amheuaeth o ladrad ac wedi ei gadw yn y ddalfa.
Roedd yr heddlu wedi derbyn adroddiad am 17.15 ddydd Mawrth bod beic trydan Sur-Ron wedi ei ddwyn ar Stryd Glyn, Glynfach, Y Porth, Rhondda Cynon Taf.
“Y gred yw bod gyrrwr 15 oed y beic wedi cael ei daro’n fwriadol gan gar ac yna wedi’i fygwth â chyllell cyn i’w feic gael ei ddwyn,” meddai'r heddlu.
Dywedodd Ditectif Sarjant Dylan Jones: “Cafodd y bachgen yn ei arddegau fraw ond dyw e heb ei anafu ac mae ymholiadau’n parhau.
“Rydym yn nyddiau cynnar ein hymchwiliad, ond rwy’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â theledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd yn ardal Stryd Glyn, Glynfach neu Ffordd Trebanog, Y Porth rhwng 5pm a 5.30pm ddoe i’w rannu ni gan ddyfynnu’r digwyddiad 2500045682.”