Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dynes 47 oed ar Ynys Môn
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod yn parhau i ymchwilio i farwolaeth dynes 47 mlwydd oed ym mhentref Gwalchmai ar Ynys Môn.
Cafodd heddlu eu galw i eiddo yn y pentref ar 6 Chwefror wedi i'r ddynes gael ei darganfod gydag anafiadau difrifol.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw'n ddiweddarach.
Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: "Mae'r crwner wedi cael gwybod, a rydym ni'n parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau o gwmpas ei marwolaeth."