Newid terfynau cyflymder i 30mya ar rhai o ffyrdd Wrecsam
Mae cynghorwyr Wrecsam wedi penderfynu newid terfynau cyflymder 20mya yn ôl i 30mya ar nifer o ffyrdd yn yr ardal.
Roedd yr awdurdod wedi cyfarfod ddydd Mawrth i ystyried adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus oedd yn dweud bod nifer o drigolion eisiau gwrthdroi terfynau cyflymder ar 52 o ffyrdd.
Ym mis Medi 2023 fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru'r polisi terfyn cyflymder o 20mya gan effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl.
Ond fe fuodd yna wrthwynebiad gan rai. Cafodd deiseb ei llofnodi gan bron 500,000 o bobl yn galw am wrthdroi’r cyfyngiadau.
Ym mis Ebrill 2024, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n adolygu’r cynllun.
Cafodd trigolion Wrecsam eu hannog i gysylltu â’r cyngor er mwyn mynegi eu barn fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 13 Rhagfyr 2024 a 31 Ionawr 2025.
Roedd y mwyafrif o bobl – dros 93% – yn dweud eu bod yn cefnogi’r cynnig i ail-osod terfyn cyflymder 30mya ar ffyrdd 20mya.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam, David Bithell bod y penderfyniad wedi ei wneud ar ôl ystyriaeth gofalus.
"Rydyn ni wedi gwneud hyn yn ofalus iawn mewn yn unol gyda chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi cael llawer o bobl yn lobio'r awdurdod lleol ac aelodau etholedig i fynd yn ôl i 30mya. Ond rydyn ni hefyd wedi cael pobl yn lobio ni i gadw'r cyfyngiadau 20mya hefyd.
"Rydyn ni wedi cael cynrychiolaeth gan UK Cycling, 20s Plenty, yr holl fudiadau hynny sydd eisiau cadw'r cyflymder ar 20mya.
"Felly rydyn ni wedi cymryd golwg gofalus, cymesur i wneud yn siŵr bod pawb yn fodlon bod y ffactorau diogelwch a risgiau yn cael eu lleddfu cyn ein bod ni yn cyflwyno newidiadau i'r cyfyngiadau cyflymder."
Ychwanegodd bod y penderfyniad wedi ei wneud ar y cyd fel Bwrdd Gweithredol am fod yna gwestiynau am atebolrwydd cyfreithiol pe byddai damwain yn digwydd ar un o'r ffyrdd ar ôl newid y cyfyngiadau cyflymder.
Dywedodd nad oedd y cyngor wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru fyddai yn ei esgusodi o atebolrwydd wrth wneud y newidiadau yma. Roedd yr awdurdod felly yn amharod i un person wneud y penderfyniad, meddai David Bithell.
Y nod yw cyflwyno'r newidiadau ym mis Mai 2025.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo ar draws y siambr. Er bod y Bwrdd Gweithredol wedi derbyn y newidiadau bydd ymgynghoriad arall yn digwydd gyda chymunedau er mwyn gwneud yn siŵr bod y newidiadau yn rhai saff a bod yna gyfathrebu eang.