Newyddion S4C

Perchennog cynnyrch gwallt yn falch iddi aros yn ei milltir sgwar

Lucie yn dathlu lansiad ei chynnyrch yn Boots gyda balŵn

Mae perchennog busnes surop gwallt llwyddiannus yn dweud bod sefydlu cwmni mewn ardal wledig yn heriol, ond yn werth yr ymdrech. 

Sefydlodd Lucie Macleod, sy'n 25 oed ei busnes Hair Syrup yn Sir Benfro yn 2020, ac ymddangosodd ar raglen The Dragon's Den' yn ddiweddar.

Doedd hi ddim yn bwriadu sefydlu cwmni ar y pryd. Roedd y cyfan yn ddamweiniol wedi i Lucie gyhoeddi fideo ar gyfrwng TikTok i'w llond llaw o ddilynwyr, yn dangos sut roedd ei gwallt wedi trawsnewid. 

Gan ddisgwyl ychydig o sylw, cafodd ei synnu pan aeth y fideo yn feiral dros nos, gyda cheisiadau di-ri gan bobl ar-lein a oedd yn awyddus i brynu ei “surop hud”.

 

Image
Lucy yn cael ei ffilmio ar gyfer cyfweliad yn ei swyddfa

Chafodd Lucie Macleod ddim llwyddiant ar raglen The Dragon's Den, ac ni lwyddodd i daro bargen a chael cytundeb ar gyfer ei chynnyrch.   

“Oedd e'n teimlo fel oedd drws wedi cau yn fy wyneb," meddai wrth siarad â Newydddon S4C.

Ond wedi iddi ymddangos ar y rhaglen, roedd ei chynnyrch gwallt ar werth yn siop Boots ar Bond Street yn nghanol Llundain. 

Ac mae bellach ar werth gan nifer o siopau'r stryd fawr.   

Wedi'r siom ar The Dragon's Den, rhoddodd hynny hyder iddi.

“Undoubtedly mae’n mwy challenging i ddechrau busnes mas o rywle fel Sir Benfro i gymharu â rhywle fel Caerdydd,” meddai.  

Creu llwyddiant 

Mae'r busnes yn dal i weithredu o bentref Wdig, yn Sir Benfro, ac mae hi'n cydnabod bod y dyddiau cynnar yn heriol yn yr ardal.  

Ond bellach, mae'n sylweddoli nad yw sefydlu busnes mewn ardal wledig yn rhwystr yn y pendraw.

“Chi’n gallu creu llwyddiant,” meddai. 

“Rydw i’n rili hapus bod rhywbeth fel Hair Syrup yn gallu dod yma, a helpu pobl ffurfio swyddi sydd yn wahanol i beth oedd ar y farchand swyddi yn Sir Benfro o’r blaen. 

“Mae’r teimlad o gymuned yn Sir Benfro wedi dod mewn i’r cwmnï Hair Syrup,” ychwanegodd. 

“Mae pobl ar gyfryngau cymdeithasol yn hoffi clywed amdan Sir Benfro, achos mae pobl fel arfer yn disgwyl i’r fusnes i ddod allan o Llundain neu Fanceinion, ond na, mae wedi dod allan o Sir Benfro yn ne orllewin Cymru! 

“Mae pobl yn rili lico fe achos mae’n wahanol.” 

I unrhyw un sy'n ystyried sefydlu busnes mewn ardal wledig - mynd amdani yw cyngor Lucie Macleod.   

“Peidiwch aros am yr amser perffaith i ddechrau. Mae’n gwell i ddechrau nawr a ddatblygu trwy’r daith yn lle peidio dechrau o gwbwl.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.