Tad yn siarad am drasiedi dwbl - colli ei ferch a'i fam
Mae dyn wedi disgrifio'r foment y cafodd ei ferch fach ei lladd ar ôl bod yn ymweld â’i fam oedd yn marw yn yr ysbyty.
Mis Mehefin 2023 oedd hi. Roedd Rob Hall wedi penderfynu mynd a’i ferch Mabli am dro ar ôl treulio amser gyda’i fam oedd ar ei gwely angau.
Fe gerddodd allan o Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ond cafodd y ddau eu taro gan gar.
Mewn cyfweliad gyda Wales Online, mae’n dweud ei fod yn cofio'r foment y gwelodd Mabli ar ôl hynny.
“Y peth nesaf dwi’n cofio oedd rhywun yn cerdded heibio fi gyda chorff llipa Mabli. Allai fyth ddisgrifio sut oedd hynny yn teimlo.”
Roedd yn rhaid cludo Mabli i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond doedd dim lle i Rob a’i wraig. Roedd yn rhaid iddyn nhw wneud y daith 100 milltir yng nghefn car heddlu.
“Does dim geiriau i ddisgrifio’r oriau yna. Mi oeddwn i wedi fy anafu ac yn gorfod mynd am sgan ar fy mhen. Mi oedden ni yn gorfod eistedd mewn stafell fach am yr holl amser, yn disgwyl, ddim yn cael bod gyda Mabli. Yr aros yna oedd yr hiraf roedd fy ngwraig erioed wedi bod oddi wrth Mabli. Erioed,” meddai wrth Wales Online.
Cafodd Mabli ei chludo i ysbyty plant ym Mryste. Tra roedd hi yno fe gafodd Rob alwad gan ei frawd yn dweud bod ei fam yn ei horiau olaf. Roedd ganddi glefyd motor niwron. Fe benderfynodd Rob ddweud celwydd wrthi am ei ferch.
“Roedd hi eisiau gwybod pam nad o’n i yna achos mi o’n i wedi bod yno am y ddwy wythnos a hanner cyn hynny. Ond doeddwn i ddim yno yn y diwedd.”
Cafodd wybod yn fuan ar ôl siarad gyda hi bod ei fam wedi marw.
“Dwi’n eistedd mewn ystafell ysbyty ym Mryste, drws nesaf i fy merch fach sydd yn ymladd am ei bywyd ac yn galaru am fy mam. Does gen i ddim geiriau i ddisgrifio’r sefyllfa yna.”
Ddydd Sul Mehefin 25, 2023 fe fuodd Mabli farw.
Ym mis Ionawr cafodd Bridget Curtis, 71 oed o Begeli yn Sir Benfro ei dedfrydu i bedair blynedd o garchar ar ôl pledio yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.
Mae rhieni Mabli yn dweud eu bod wedi eu “llorio” gan y gefnogaeth maen nhw wedi derbyn ers ei marwolaeth. Mae blodau newydd neu ornament bob amser wrth y safle lle y cafodd hi ei tharo.
Erbyn hyn mae'r teulu wedi codi dros £14,000 i’r elusen 2 Wish. Elusen yw hon sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi colli plant neu berson ifanc yn annisgwyl ac yn sydyn. Bwriad y teulu yw parhau i godi arian er cof am Mabli.
Yn ôl Gwen, mam Mabli fe fydd hi “wastad yn rhan o’m mywydau, bob dydd. Rydyn ni yn meddwl amdani trwy’r amser. Hi oedd y babi hapusaf i mi ei adnabod erioed.”