Tân yn swyddfa newydd y cyngor yng nghanol Abertawe
Bu'r gwasanaeth tân yn ymateb i dân yn adeilad newydd y cyngor sir yng nghanol Abertawe fore dydd Gwener.
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o orsafoedd tân Gorllewin Abertawe, Treforys, Port Talbot, Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Llanelli a Chaerfyrddin eu galw i'r digwyddiad yn ardal Ffordd y Brenin o'r ddinas.
Dywedodd datganiad y gwasanaeth tân bod criwiau yn ymateb i dân mewn eiddo.
Roedd y tân yn adeilad 71 a 72 Heol y Brenin sydd yn swyddfa uwch-dechnoleg newydd i Gyngor Dinas Abertawe - adeilad ar gyfer 600 o bobl yn hen safle clwb nos Oceana yn y ddinas.
Roedd ffordd gyfagos ar gau am gyfnod rhwng gwesty’r Dragon a chylchfan Heol Sain Helen.
Roedd cyngor i'r cyhoedd osgoi'r ardal am gyfnod ond mae'r ffordd wedi ei hail-agor erbyn hyn.