Newyddion S4C

Cyhuddo chwe dyn o ddwyn gwartheg ar Ynys Môn

Car Heddlu

Mae chwech o ddynion wedi eu cyhuddo o ddwyn gwartheg o fferm ar Ynys Môn.

Cafodd 14 o wartheg eu dwyn o sied ar gyrion Llannerchymedd, Ynys Môn, yn oriau mân y bore ar 10 Rhagfyr, 2022.

Cafodd sawl warant chwilio eu gweithredu mewn cysylltiad â’r digwyddiad gan gynnwys dau leoliad ffermio yn ardal Stoke on Trent ym mis Ebrill 2023.

Yn ystod y chwiliadau gan Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, cafwyd hyd i’r gwartheg, yn ogystal â thractor a beic cwad. 

Mae pedwar dyn o ogledd Cymru, un dyn o Stoke on Trent a dyn arall o Sir Stafford wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gyflawni bwrgleriaeth gyda’r bwriad o ddwyn.

Y chwech sydd wedi eu cyhuddo ydy:

  • Daniel Jones, 30 oed o Lannerchymedd ar Ynys Môn.
  • Liam Kettleborough, 29 oed o Coventry Road, Church Lawford, Rugby.
  • Jack Billington, 22 oed o Ffordd Llyndir, Rossett, Wrecsam.
  • Michael McLeod, 55 oed o Bennetts Lane, Higher Kinnerton, Sir y Fflint.
  • Stanley Jones, 26 oed o Broughton Heights, Pentre Brychdyn, Wrecsam.
  • Clifford Smith, 64 oed o Whitfield Road, Stoke on Trent.

Bydd y chwech yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ar 3 Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.