Teyrngedau i Marianne Faithfull sydd wedi marw'n 78 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r gantores a’r actores Marianne Faithfull, sydd wedi marw'n 78 oed.
Wedi'i geni yn Hampstead yn 1946, roedd hi'n adnabyddus am ganeuon fel As Tears Go By, a gyrhaeddodd 10 uchaf y DU yn 1964, ac am serennu mewn ffilmiau gan gynnwys The Girl On A Motorcycle yn 1968.
Yn eicon 60au'r ganrif ddiwethaf, oedd hi hefyd yn gariad enwog i brif leisydd The Rolling Stones, Mick Jagger yn yr 1960au, gan ysbrydoli ei ganeuon fel Wild Horses a You Can't Always Get What You Want.
Fe ddisrifiodd hi fel "ffrind gwych a chantores hyfryd" wrth glywed am ei marwolaeth.
Mewn teyrnged i Faithfull, disgrifiodd yr actor James Dreyfus hi fel person "cwbl hyfryd".
Wedi cyfnod yn gaeth i heroin yn y 70au, fe atgyfododd ei gyrfa gyda'r albwm Broken English.
Dywedodd ei llefarydd nos Iau: “Gyda thristwch mawr rydyn ni’n cyhoeddi marwolaeth y gantores, y gyfansoddwraig a’r actores Marianne Faithfull.
“Bu farw Marianne yn heddychlon yn Llundain heddiw, yng nghwmni ei theulu cariadus.
"Bydd colled fawr ar ei hôl."
Llun: Wochit