Newyddion S4C

Dyn yn euog o lofruddio cariad ei fab yn Llanelli

Sophie Evans

Mae dyn oedd wedi ei gyhuddo o ladd cariad ei fab yn Llanelli wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Gwadodd Richard Jones iddo lofruddio Sophie Evans, ond fe gyfaddefodd gyhuddiad o ddynladdiad - gan ddweud ei fod wedi gwylltio pan oedd yn amau ​​​​bod y dioddefwr a'i chariad, ei fab Jamie Davies, yn ceisio ei dwyllo.

Wedi achos llys pythefnos o hyd, fe'i cafwyd yn euog gan reithgor ddydd Iau.

Clywodd y llys sut y cyrhaeddodd Jones gartref Sophie yn Heol Bigyn, Llanelli, am 9.19 ar 5 Gorffennaf, 2024. 

Cafodd ei ddal ar gamera cloch y drws yn siarad ar y ffôn gyda Sophie cyn iddi ei adael i mewn drwy’r drws.

Bu yn y cartref am ddim ond 40 munud cyn i deledu cylch cyfyng ei ddangos yn rhedeg yn ôl at ei gar, cyn dychwelyd i'r tŷ ac yna'n gyrru i ffwrdd. 

Erbyn hyn, roedd wedi ymosod ar Sophie a’i gadael yn farw yn ei chegin.

Gyrru i Lanelli

Yn dilyn y digwyddiad, roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos Jones yn gyrru i ganol tref Llanelli lle bu'n ymweld â'r banc a becws cyn mynd adref i Borth Tywyn. 

Erbyn 10.35 roedd wedi gadael ei gartref yn ei gar cyn gyrru i Barc Gwledig Pen-bre.

Trwy gyfres o negeseuon testun at ei gyn-bartner, esboniodd Jones ei fod yn meddwl ei fod wedi cael ei ‘sgamio’ ac ‘na fydd o gwmpas’. 

Roedd wedi amau ​​Sophie a’i fab Jamie Davies o geisio ei dwyllo.

Am 17.27 derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad 999 yn adrodd bod Richard Jones wedi lladd Sophie Evans. 

Aeth swyddogion i'w chyfeiriad gan dorri i mewn drwy'r drws cefn. 

Cafwyd hyd i Sophie ar lawr y gegin a chadarnhawyd ei bod wedi marw.

Bymtheg munud yn ddiweddarach, fe wnaeth Jones anfon neges destun arall at ei gyn-bartner yn gofyn iddi beidio â dweud dim.

Yn dilyn ymholiadau gan yr heddlu, daethpwyd o hyd i Jones ger y fynedfa i Barc Gwledig Pen-bre am 20:00. 

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'i gludo i'r ysbyty lle bu am bedwar diwrnod.

Pan gyrhaeddodd y ddalfa ar 9 Gorffennaf, 2024, gwnaeth Jones alwad ffôn i’w fam a dywedodd wrthi ei fod wedi gwneud ‘llanast eto’.

Cyhuddo

Ar 11 Gorffennaf, ar ôl naw cyfweliad, cafodd ei gyhuddo o lofruddio Sophie Evans.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Roberts: “Rydym yn croesawu euogfarn y llys. Mae ein meddyliau ar yr adeg hon gyda Sophie a’r teulu a ffrindiau oedd yn ei charu. 

"Roedd Sophie yn fam ifanc, yn aelod annwyl o'r teulu ac yn ffrind. Mae Richard Jones wedi ei gael yn euog o weithred ddisynnwyr, llwfr wedi ei sbarduno gan ddicter a thymer. 

"Roedd Sophie yn ei chartref ei hun ac nid oedd mewn sefyllfa i amddiffyn ei hun rhag gweithred greulon Richard Jones o drais. B

"ydd y teulu’n cael rhywfaint o gysur ei fod bellach wedi’i dynnu o gymdeithas ac na all niweidio unrhyw un arall.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.