Porthladd Caergybi: Lansio ymchwiliad i ddifrod Storm Darragh er mwyn gallu 'dysgu gwersi'
Mae un o bwyllgorau Senedd Cymru yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'r difrod diweddar ar borthladd Caergybi er mwyn "gallu dysgu gwersi."
Fe gafodd yr holl wasanaethau fferi yn y porthladd, sy’n eiddo i Stena Line, eu canslo cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i Storm Darragh ddifrodi rhan o seilwaith y porthladd.
Bu oedi wrth ddosbarthu parseli ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref ar gyfer y Nadolig eu heffeithio.
Ddydd Iau fe wnaeth Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd gyhoeddi eu bod yn lansio ymchwiliad i'r difrod diweddar.
Dywedodd y pwyllgor y byddan nhw'n galw ar sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli'r porthladd i ddeall beth ddigwyddodd ac i ystyried a oes modd atal hyn rhag digwydd eto.
Caergybi yw'r ail borthladd fferi prysuraf yn y DU, ac mae'n gysylltiad allweddol rhwng Iwerddon a'r DU.
Yn ôl aelodau'r pwyllgor, bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar:
- Achosion: y ffactorau sy'n cyfrannu at ddifrifoldeb y difrod.
- Cyfathrebu: y dull o gyfathrebu yn ystod y storm, ac wedyn, gyda defnyddwyr porthladdoedd, cymunedau a busnesau yn ogystal â rhwng llywodraethau.
- Adfer: cyflymder yr ymateb wrth asesu ac atgyweirio'r difrod, gan gynnwys y cymorth a ddarperir gan y llywodraeth.
- Effaith: effaith y cau, yn ogystal â graddau’r camau a gymerwyd i liniaru'r effaith, a’u heffeithiolrwydd.
Dywedodd Andrew RT Davies AS, cadeirydd y pwyllgor bod angen atebion er mwyn osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
“Ni ddylid diystyru effaith cau Porthladd Caergybi gan mai dyma’r ail borthladd teithwyr mwyaf yn y DU ac mae canlyniadau ei gau wedi effeithio’n fawr ar yr economi leol, yn ogystal â’r economi genedlaethol.
"Mae ein hymchwiliad yn gofyn am atebion gan y rhai sy'n gyfrifol am ein seilwaith hanfodol."
Ychwanegodd: “Cafodd yr holl deithwyr, busnesau a chymunedau lleol eu heffeithio'n fawr iawn yn ystod cyfnod prysur iawn, ac mae’n bwysig sicrhau ein bod yn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
“Mae stormydd fel Darragh yn taro’r DU yn fwy aml, ac felly mae’n bwysig ein bod yn barod ac yn wydn, a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau aflonyddwch sylweddol.”