Chwe Gwlad: 'Unrhyw beth yn bosib i Gymru yn erbyn Ffrainc'
Wrth i Gymru baratoi i wynebu Ffrainc nos Wener mae cefnwr Cymru Liam Williams yn dweud bod "unrhyw beth yn bosib" i Gymru allan ym Mharis.
Fe fydd y crysau cochion yn dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn erbyn Les Bleus yn Stade de France.
Nid yw Cymru wedi ennill yn erbyn Ffrainc ers 2019, pan oeddynt yn fuddugol yn eu herbyn yn y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd yn ogystal.
Ffrainc yw un o'r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth eleni, tra bod nifer yn disgwyl i Gymru i dderbyn y wobr nad oes neb eisiau ei hennill, y llwy bren.
Mae'r pwysau yn cynyddu ar Warren Gatland wedi i Gymru beidio ennill un gêm ryngwladol yn 2024.
Mae'r 15 sydd wedi eu dewis ganddo i gychwyn yn Ffrainc nos Wener yn gymysgedd o chwaraewyr ifanc dibrofiad a rhai chwaraewyr hynod o brofiadol.
Liam Williams yw un o'r chwaraewyr hynny, ac mae'n dweud y gall unrhyw beth ddigwydd ar y noson.
"Mae Ffrainc fel y Harlem Globetrotters, maen nhw wrth eu bodd yn taflu'r bêl o gwmpas," meddai.
"Bydd rhaid i ni aros tan nos Wener i weld pa dîm Ffrengig bydd yn troi lan. Mae'r egni yn ein carfan yn wych, mae'r bois yn teimlo'n grêt ac mae ymarfer wedi bod yn dda.
"Maen nhw wedi bod yn un o'r timau gorau yn y byd dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n gêm enfawr i ni.
"Dwi wedi ennill ym Mharis cwpl o weithiau, felly mae unrhyw beth yn bosib."
Y garfan
Fe fydd Josh Adams, Liam Williams a Dafydd Jenkins yn cychwyn dros Gymru ar ôl methu'r bencampwriaeth y llynedd.
Fe fydd y blaenwyr rheng flaen Henry Thomas ac Evan Lloyd yn dechrau eu gêm ryngwladol gyntaf, ar ôl ennill pob un o’u capiau hyd yma oddi ar y fainc.
Nid oes lle i’r wythwr profiadol Taulupe Faletau ohewrydd anaf, gydag Aaron Wainwright yn cychwyn yn ei safle. Fe fydd yn ymuno â’r capten Jac Morgan a’r blaenasgellwr James Botham yn y rheng ôl.
Ben Thomas fydd yn cychwyn yn safle’r maswr, gan bartneru gyda mewnwr Caerloyw, Tomos Williams. Owen Watkin a Nick Tompkins fydd yn cychwyn yn safleoedd y canolwyr.
Ymhlith yr eilyddion, bydd Nicky Smith yn ennill ei 50fed cap os gaiff ei alw o’r fainc – tra gallai maswr y Gweilch, Dan Edwards gipio ei gap cyntaf dros ei wlad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1884580020170989938
Fe fydd y gêm yn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 20.15.
Llun: Asiantaeth Huw Evans