Bachgen yn ei arddegau wedi marw ar dir ysgol yng Nghastell-nedd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth bachgen 13 oed ar dir ysgol gynradd yng Nghastell-nedd.
Bu farw'r bachgen ar dir Ysgol Gynradd Melin yn y dref ac mae ei deulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rydym yn hynod drist o glywed y newyddion trasig yma ac mae ein meddyliau’n mynd allan i’r teulu, mae swyddogion Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar hyn o bryd a bydd y cyngor yn cynnig unrhyw gymorth posib.
"Caewyd Ysgol Gynradd Melin (safleoedd babanod ac iau) ddydd Mercher Ionawr 29. Bydd cymorth ar gael i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio.
"Bydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Iau Ionawr 30."
Mewn datganiad ar wefan yr ysgol i rieni, dywedodd y pennaeth dros dro Danielle Harris: "Rydym am eich hysbysu y bydd Ysgol Gynradd Melin (safleoedd babanod ac iau) yn ailagor yfory (Dydd Iau 30ain Ionawr) yn dilyn digwyddiad trasig a ddigwyddodd ar dir yr ysgol yn gynnar y bore yma.
"Deallwn fod digwyddiadau diweddar wedi bod yn ofidus, ac rydym am eich sicrhau mai lles ein myfyrwyr, staff a chymuned ehangach yr ysgol yw ein prif flaenoriaeth.
"Bydd gwasanaethau cefnogi ar gael yn yr ysgol i gynorthwyo unrhyw un mewn angen.
"Os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn, peidiwch ag oedi cyn estyn allan atom ni. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd hwn."