Newyddion S4C

'Neb wedi goroesi' wedi i hofrennydd daro awyren yn Washington D.C.

'Neb wedi goroesi' wedi i hofrennydd daro awyren yn Washington D.C.

Mae swyddogion yn yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau nad oes disgwyl fod unrhyw un wedi goroesi wedi i awyren blymio i afon Potomac ym mhrifddinas y wlad, ar ôl iddi daro hofrennydd y fyddin. 

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Wichita, lle gychwynnodd yr hediad, fe gadarnhaodd maer y ddinas Lily Wu nad oes unrhyw un wedi goroesi’r ddamwain ychydig cyn yr oedd yr awyren i fod i lanio yn Washington DC.

Fe ychwanegodd Wu nad yw hi’n gwybod eto faint o deithwyr oedd yn byw yn y ddinas.

Mae'r gwasanaethau brys yn Washington D.C. wedi dod o hyd i 30 o gyrff yn ystod yr ymdrech achub.

Fe wnaeth awyren American Airlines blymio i’r afon ar ôl taro hofrennydd Black Hawk byddin yr UDA, toc cyn 21.00 amser lleol (02.00 GMT). 

Y gred yw mai 60 o deithwyr oedd ar yr awyren ar y pryd, yn ogystal â phedwar aelod o staff. 

Mae’r fyddin wedi dweud mai tri o filwyr oedd yn teithio ar yr hofrennydd. 

Mae’r heddlu yno yn cynnal ymchwiliad er mwyn dod o hyd i bobl yn yr afon. 

Mae deifwyr a chychod wedi treulio oriau yn chwilio ar hyd yr afon ers y digwyddiad. 

'Digwyddiad trasig'

Mewn cynhadledd i’r wasg a gafodd ei chynnal yn ystod oriau man bore ddydd Iau yn yr UDA, dywedodd Maer Washington DC, Muriel Bowser nad oedd modd trafod faint o bobl sydd wedi marw yn y gwrthdrawiad. 

Dywedodd y byddai dim ond yn gallu cadarnhau mai 64 o bobl oedd yn teithio ar yr awyren. Roedd yn disgrifio’r digwyddiad fel un “trasig.” 

Does dim cadarnhad swyddogol hyd yma o ran y nifer o bobl sydd wedi marw.

Dywedodd pennaeth gwasanaeth tân Washington DC, John Donnelly: “Dydyn ni ddim yn gwybod os ydy unrhyw un wedi goroesi.” 

Ymateb Donald Trump

Mewn datganiad swyddogol, fe ddywedodd arlywydd yr UDA Donald Trump ei fod yn ddiolchgar i’r gwasanaethau brys am eu hymdrechion wedi’r “ddamwain ofnadwy.” 

Ychydig o oriau yn ddiweddarach, dywedodd ar ei gyfrwng cymdeithasol Truth Social: “Roedd yr hofrennydd yn teithio’n uniongyrchol tuag at yr awyren am gyfnod estynedig.

“Mae’n NOSON GLIR, roedd goleuadau’r awyren yn llachar. 

“Mae hon yn sefyllfa wael sydd yn ymddangos fel y dylai wedi cael ei hatal. DIM YN DDA!!!” 

Ymdrechion achub

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tra'r oedd yr awyren yn teithio tuag at lain glanio 33 ym Maes Awyr Rhyngwladol Ronald Reagan yn y brifddinas. 

Dywedodd llywydd awdurdod maesydd awyr Washington, Jack Potter, fod 19 o awyrennau wedi cael eu dargyfeirio o faes awyr Reagan i faes awyr rhyngwladol Dulles, yn sgil y digwyddiad.

Dywedodd pennaeth gwasanaeth tân Washington DC, John Donnelly, fore Iau bod swyddogion yn wynebu amgylchiadau heriol wrth i'r ymdrechion achub gael eu cynnal dan amodau “rhewllyd” a “thywyll.” 

Fe gafodd y gwasanaethau brys wybod am y digwyddiad ychydig cyn 21.00. Fe wnaeth swyddogion gyrraedd ardal y gwrthdrawiad am 20.58, meddai Mr Donnelly. 

Mae tua 300 o swyddogion o’r gwasanaethau brys yn rhan o’r ymdrech achub ar gychod ar yr afon. 

Mae ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan Fwrdd Diogelwch Trafnidiaeth Genedlaethol yno, gyda chymorth yr FBI, yn ogystal â gan y weinyddiaeth sy’n gyfrifol am hediadau, y Federal Aviation Administration.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.