Newyddion S4C

'Ambiwlans plis - mae fy aligator o dan y soffa'

29/01/2025
Aligator

"Ydy'r claf yn effro?"

"Yndi - aligator ydy o."

"Pardwn?"

"Aligator anwes ydy o. Mae'n rhydd a dwi'n ofnus... dwi'n meddwl ei fod o dan y soffa."

"Allwn ni ddim anfon ambiwlans am aligator sydd wedi dianc."

Dyma un o nifer o alwadau oedd wedi eu derbyn gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru y llynedd nad oedd yn alwadau brys.

O’r 426,116 o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans y llynedd, nid oedd 63,836 (15%) yn argyfwng bywyd neu farwolaeth – sef cyfartaledd o 175 o alwadau’r dydd.

Mae arweinwyr y gwasanaeth yn galw ar bobl i ddefnyddio synnwyr cyffredin cyn ffonio 999 a gofyn am gymorth.

Ymysg y galwadau rhyfedd eraill oedd cais gan un person am gymorth gan fod ei fys yn sownd mewn potel gwrw, un arall yn cwyno nad oedd modd tynnu breichled o'i braich a pherson yn cwyno am boen dant.

Roedd galwadau eraill i'r gwasanaeth yn cynnwys un gan berson oedd heb oriad i'w tŷ ac yn cwyno eu bod yn oer, gyda galwad arall yn gofyn am gymorth ar ôl bod yn ymarfer kung-fu.

Dywedodd Andy Swinburn, cyfarwyddwr gweithredol parafeddygaeth, yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae ein gwasanaeth ambiwlans brys yn bodoli ar gyfer y rhai y mae eu bywyd mewn perygl dybryd.

“Dyna bobl sy’n cael trawiad ar y galon, pobl â phoen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, adweithiau alergaidd difrifol, gwaedu trychinebus neu rywun sy’n cael strôc.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng argyfwng a rhywbeth sy’n anghyfforddus neu’n cythruddo ond nad yw’n bygwth bywyd, felly os nad oes angen yr ymyrraeth amser-gritigol honno arnoch, mae’n bwysig iawn defnyddio synnwyr cyffredin a gwneud yr alwad gywir.”

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.