Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi gofyn ‘ydw i yn mynd i fod yn enwog?’
28/01/2025
Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi gofyn ‘ydw i yn mynd i fod yn enwog?’
Unwaith eto bu'n rhaid i Fiona Elias, Liz Hopkin a'u teuluoedd weld a chlywed tystiolaeth o sut y cawsant eu trywanu gan ddisgybl ar ddyletswydd amser egwy yn Ysgol Dyffryn Aman.
Dyma'r golygfeydd wnaeth hawlio'r penawdau fis Ebrill llynedd.
Disgyblion dan glo am oriau a'r rhieni tu allan yn aros.
Gwelodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng o'r ymosodiadau oedd yn dangos y diffynnydd yn tynnu cyllell bysgota allan cyn trywanu Fiona Elias.
Yn ôl yr erlyniad, dywedodd wrth ei hathrawes, dw i'n mynd i dy ladd cyn ei thrywanu hi a Liz Hopkin oedd yn ceisio ei rhwystro.
Yna gwelodd y rheithgor y diffynnydd yn symud i ran arall o'r iard ac yn bygwth disgybl cyn eu trywanu.
Clywodd y rheithgor fod Fiona Elias wedi canfod cyllell ym mag y diffynnydd ynghynt yn y flwyddyn ysgol ac o hynny ymlaen roedd rhaid edrych beth oedd yn ei bag.
Ni ddigwyddodd hyn ar fore'r 24ain o Ebrill.
Clywodd y rheithgor i'r heddlu ganfod darluniau yn ei bag oedd yn cyfeirio at Mrs Frogface Elias ac enw'r disgybl na'th hi drywanu, gyda'r geiriau "boddi", "marwolaeth" a "llosgi".
Ychwanegodd yr erlynydd William Hughes KC bod y diffynnydd wedi gwneud nifer o sylwadau arwyddocaol i'r heddlu fel "oopsies" wrth iddi gyfaddef trwyanu'r disgybl.
"Ydyn nhw wedi marw?", meddai hi gan ddweud y bydd e ar y newyddion.
"Dyna un ffordd o fod yn enwog."
Mae'r ferch wedi cyfaddef trywanu'r tri ond yn gwadu ceisio llofruddio.
Mae'r achos yn parhau.