Wynne Evans yn cyhoeddi y bydd yn cymryd seibiant o'i sioe ar Radio Wales
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Mr Evans: “Rydw i wedi cytuno gyda'r BBC y byddaf yn cymryd seibiant am beth amser o fy sioe radio a'r daith Strictly, yn ogystal ag ymrwymiadau cyhoeddus eraill, er mwyn blaenoriaethu materion yn ymwneud â lles fy iechyd
Dywedodd y byddai'n cymryd amser i hunan fyfyrio.
“Mae'n wir ddrwg gen i am y loes mae fy ngweithredoedd amhriodol wedi ei achosi," meddai.
“Rwy'n ymddiheuro hefyd i'r rhai na chaiff weld gweddill fy mherfformiadau, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth anhygoel rydw i wedi ei derbyn gan y giang ar y daith.”
Sylwadau 'amhriodol'
Dros y penwythnos, ymddiheurodd Wynne Evans am sylwadau "amhriodol ac annerbyniol" ganddo yn ystod lansiad taith Strictly ar 16 Ionawr.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod y digwyddiad.
Yn y darn fideo, mae modd clywed Wynne Evans yn gwneud sylw amhriodol o natur rywiol.
Dywedodd llefarydd ar ran taith fyw Strictly a BBC Studios ar y pryd: “Nid oeddem yn ymwybodol o’r sylw o’r blaen ac ni chawsom unrhyw gwynion.
“Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o’r fath ar y daith.”
Bu Wynne Evans yn y penawdau hefyd rai misoedd yn ôl, pan roedd cyfres deledu Strictly yn cael ei darlledu.
Yn ddiweddarach, dywedodd y canwr fod yr ymateb i “jôc wirion” y gwnaeth yn ystod y gystadleuaeth yn “dorcalonnus”.
Cafodd clipiau ohono a Katya Jones eu rhannu, gyda channoedd o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu nad oedd eu partneriaeth yn fêl i gyd.
Roedd y cyntaf yn dangos Katya Jones yn anwybyddu ymdrech gan Wynne Evans i roi ‘pawen lawen’ iddi, a’r ail yn ei dangos yn gwthio ei law oddi ar ei chanol.
Dywedodd y partneriaid yn ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol mai “jôc wirion” ydoedd, a bod y ddau yn “ffrindiau go iawn”.
Ddydd Llun, cadarnhaodd BBC Cymru bod Mr Evans yn cymryd seibiant o gyflwyno ei raglen ar orsaf BBC Radio Wales.
Cafodd pennod gyntaf y gyfres All At Sea, sydd yn cynnwys Mr Evans a’r actores Joanna Page, ei darlledu ar BBC One yng Nghymru nos Lun.