Rhoi diwedd ar doriad treth i ysgolion preifat yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi diwedd ar doriad treth i ysgolion annibynnol.
Bydd y newid yn tynnu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol (charitable non-domestic rates relief) yn ôl o rai ysgolion preifat o 1 Ebrill 2025.
Mae gan rai ysgolion preifat - sy'n cael eu cofrestru fel ysgolion annibynnol yng Nghymru - statws elusennol.
Ar hyn o bryd, mae pob elusen yn derbyn rhyddhad o 80% o leiaf o'u biliau ardrethi annomestig, gan gynnwys rhai ysgolion sy'n codi ffioedd.
Bydd dileu'r toriad treth yn golygu y bydd ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yn cael eu trin yn yr un modd ag ysgolion annibynnol eraill.
Mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru, ac mae 17 yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig elusennol sy'n werth tua £1.3m bob blwyddyn.
'Cefnogi gwasanaethau cyhoeddus'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai'r arian sy'n cael ei ryddhau, ar gael i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: "Rydym yn credu y dylai ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yng Nghymru gael eu trin yn yr un ffordd â'r rhai nad ydynt yn elusennau.
"Drwy ddileu'r toriad treth hwn, gallwn ryddhau cymaint â £1.3m bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol."
Daw'r penderfyniad wedi i Lywodraeth Cymru gynnal cyfnod ymgynghori ar y toriad treth y llynedd.
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi dileu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynllunio newidiadau tebyg yn Lloegr.