Newyddion S4C

‘Lwc’ menyw o Gaerdydd a gafodd ei geni wrth giât gwersyll Natsiaidd

25/01/2025
Eva Clarke a'i mam

Mae menyw a gafodd ei magu yng Nghaerdydd ar ôl cael ei geni wrth giât gwersyll Natsiaidd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd wedi dweud mai “lwc” oedd yn gyfrifol am iddi oroesi.

Cafodd Eva Clarke, 79, ei geni yng ngwersyll crynhoi (concentration camp) Mauthausen yn Awstria ar Ebrill 29 1945, ddiwrnod ar ôl iddo redeg allan o nwy ar gyfer y siambr nwy.

Aeth ymlaen i fyw yng Nghaerdydd a phriodi cyfreithiwr o’r Fenni, Malcom Clarke, a chael dau o blant. Mae bellach yn byw yng Nghaergrawnt a’n teithio'r byd yn trafod yr Holocost.

Fe wnaeth y Natsïaid lofruddio chwe miliwn o Iddewon yn ystod hil-laddiad y Holocost.

Wrth siarad cyn Diwrnod Cofio’r Holocost 2025 ddydd Llun dywedodd Eva Clarke ei bod hi a’i rheini yn “lwcus” ar ôl goroesi yn yr Almaen Natsiaidd am gyfnod “hynod o hir” cyn iddi gael ei geni.

“Roedd fy mam bob amser yn dweud bod gan lwc lawer i’w wneud a’r peth, ond ar ddiwedd mis Medi 1944 daeth eu lwc i ben, oherwydd mai ar y diwrnod hwnnw yr anfonwyd fy nhad i Auschwitz,” meddai.

Gwirfoddolodd ei mam, Anka (Nathan) Bergman, i ddilyn ei gŵr Bernd Nathan o’r Almaen i Auschwitz y diwrnod wedyn oherwydd nad oedd ganddi “unrhyw syniad” i ble cafodd ei anfon, ychwanegodd Ms Clarke.

“A hithau’n optimist tragwyddol, roedd hi’n meddwl, wel, gan eu bod nhw wedi goroesi hyd at y pwynt hwnnw, roedd hi’n meddwl na allai unrhyw beth fod yn waeth,” meddai.

“Ni welodd hi fy nhad erioed eto, a chlywodd gan lygad-dyst ei fod wedi’i saethu’n farw ar y 18fed o Ionawr 1945, ger Auschwitz.”

Image
Anka and Bernd Nathan Bergman
Anka a Bernd Nathan Bergman

Cyrhaeddodd milwyr y Cynghreiriaid Auschwitz ddyddiau yn ddiweddarach, ar y 27ain.

Roedd gan Eva Clarke hefyd frawd a gafodd ei eni cyn i’w mam gael ei gyrru i Auschwitz ond bu farw ar ôl deufis o pneumonia.

“Roedd ei farwolaeth wedi arbed fy mywyd i a bywyd fy mam, oherwydd pe bai fy mam wedi cyrraedd gwersyll marwolaeth Auschwitz Birkenau yn dal fy mrawd yn ei breichiau, byddai’r ddau wedi cael eu hanfon yn syth i’r siambr nwy.”

Yn ddiweddarach fe gafodd ei mam ei gyrru i Mauthausen yn Awstria ar wagen glo ac roedd cyrraedd gwersyll crynhoi arall yn gymaint o sioc iddi fe wnaeth hi roi genedigaeth yn y fan a’r lle i Eva, meddai.

“Roedd yn rhaid iddi ddringo oddi ar y wagen lo, a chefais fy ngeni wrth fynedfa Mauthausen.”

Ychwanegodd: “Mae yna dri rheswm pam wnaethon ni oroesi, a’r cyntaf, ac mae’n rheswm iasoer iawn, yw bod yr Almaenwyr ar yr 28ain o Ebrill 1945 wedi rhedeg allan o nwy ar gyfer y siambr nwy.

“Yr 29ain ydi fy mhen-blwydd i.

“Yr ail reswm anuniongyrchol pam wnaethon ni oroesi yw bod Hitler wedi cyflawni hunanladdiad ar y 30ain.

“A’r trydydd rheswm a’r rheswm gorau pam wnaethon ni oroesi oedd oherwydd ar y pumed o Fai, fe gyrhaeddodd Byddin America'r gwersyll.”

Symudodd y teulu i Prag ac yn 1948 i'r DU ac ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Llun: Eva Clarke a'i mam ar ôl ei geni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.