Llandysul: Carchar i dri dyn am gynhyrchu dros £600,000 o ganabis mewn hen ysgol
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu ar ôl cynhyrchu gwerth dros £600,000 o ganabis mewn hen ysgol yng Ngheredigion.
Fis Tachwedd, fe wnaeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ddod o hyd i 737 o blanhigion canabis yn adeilad yr hen ysgol gynradd ar Heol Llyn y Fran, Llandysul.
Fe gafodd Armeld Troski, 29, Njazi Gjana, 27, a Ervin Gjana, 24, eu harestio a’u cyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B.
Fe wnaeth y tri dyn bledio’n euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe fis Rhagfyr.
Mewn gwrandawiad dedfrydu, cafodd Njazi Gjana ac Ervin Gjana eu carcharu am ddwy flynedd a chwe mis, tra bod Armeld Troski wedi cael dedfryd o dair blynedd a phedwar mis am y drosedd.
'Fferm ganabis soffistigedig'
Dywedodd y llu eu bod wedi cael gwarant i archwilio’r adeilad yn dilyn adroddiadau gan y cyhoedd am “weithgaredd amheus”.
Ar ôl cael mynediad i'r eiddo, fe ddaeth swyddogion o hyd i “fferm ganabis soffistigedig”, gyda’r cyffur yn cael ei dyfu ar dri llawr.
Wrth archwilio'r adeilad, fe glywodd swyddogion synau symudiad yn dod o'r llawr gwaelod, gan nodi bod pobl eraill yn yr adeilad.
Fe ddaeth y swyddogion o hyd i ddau unigolyn, Njazi ac Armeld, a’u harestio.
Roedd y trydydd dyn, Ervin Gjana, wedi dianc o'r eiddo - gan ddringo dros ffens â gwifrau, a dianc tuag at gaeau cyfagos.
Trwy ddefnyddio drôn, daeth swyddogion o hyd i Gjana ar ochr ffordd gyfagos, yn wlyb a gyda chrafiadau drain ar ei freichiau.
Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o dyfu’r canabis, oedd â gwerth o tua £620,000.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Ben Nicholls: “Hoffwn ddiolch i gymuned Llandysul am fod yn wyliadwrus a rhagweithiol wrth adrodd gweithgaredd amheus i’r heddlu.
“Mae’r wybodaeth a gawn gan aelodau o’r gymuned yn ein helpu i adeiladu’r darlun o weithgarwch anghyfreithlon sy’n ein galluogi i weithredu gwarantau fel hyn.
“Mae'r dedfrydu yn ein hatgoffa o’n hymroddiad i gael gwared ar ac atal sylweddau sy’n niweidio ein cymunedau, a diolchwn i’r cyhoedd am y rhan hollbwysig y maent yn ei chwarae yn y gwaith hwn.”