Storm Éowyn: Ysgolion ar gau a miloedd heb drydan wrth i wyntoedd gyrraedd 93mya
Mae degau o ysgolion ar gau a miloedd o gartrefi heb drydan yng Nghymru ddydd Gwener ar ôl i rybudd oren “perygl i fywyd” gael ei chyhoeddi am wyntoedd cryfion.
Wrth i Storm Éowyn ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd ar draws y DU fore Gwener.
Mae'r gwyntoedd cryfaf yn y DU wedi eu cofnodi yn Aberdaron, gyda rhai hyrddiadau yn cyrraedd 93mya.
Mae rhybudd coch prin mewn grym ar gyfer rhannau o Ogledd Iwerddon a'r Alban, gyda miloedd o bobl yn derbyn rhybudd cyhoeddus ar eu ffonau gan Lywodraeth y DU nos Iau.
Bydd rhybudd melyn am wynt mewn grym ar gyfer Gymru gyfan, tra bod yna rhybudd oren am “wyntoedd cryf iawn” yn y gogledd. Bydd y rhybudd oren yn effeithio ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae rhybudd melyn am law hefyd wedi’i gyhoeddi ar draws llawer o Gymru ddydd Gwener, ac mae disgwyl cymaint â 60mm o law dros dir uchel, a allai arwain at rywfaint o lifogydd.
“Gallai malurion yn hedfan, yn ogystal â thonnau mawr a malurion yn cael eu taflu ar lan y môr, achosi anafiadau a pheryglu bywyd pobl,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
Trydan
Dywedodd cwmni SP Energy Networks bod nifer o gartrefi yn y gogledd heb drydan fore Gwener.
Mae rhagor o fanylion am yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio yma.
Mae cwmni'r National Grid wedi cyhoeddi bod 1,280 o gartrefi yng Nghymru heb drydan bore 'ma.
Mae rhagor o fanylion am yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio yma.
Teithio
Mae nifer o gwmnïau trên wedi rhybuddio pobl i beidio â theithio yng ngogledd Cymru ac yn ardaloedd yn yr Alban.
Mae Avanti West Coast, CrossCountry, a Grand Central ymhlith y rhai sydd wedi rhybuddio teithwyr y bydd oedi i wasanaethau trên yn sgil "gwyntoedd, glaw ac eira cryf iawn".
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd National Rail bod rhybuddion am dywydd garw yn effeithio ar deithiau ar hyd arfordir Cymru a de Lloegr.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y bydd disgwyl i wasanaethau trên parhau i gael eu heffeithio ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y dyddiau nesaf gan ddweud:
“Mae ‘na phosibilrwydd y bydd yn rhaid i drenau teithio’n arafach nag arfer gan achosi oedi i deithiau.”
Yn ogystal mae cwmni Stena Line wedi cyhoeddi bod teithiau fferi o Gaergybi i Ddulyn wedi eu canslo tan 13:45 brynhawn Gwener.
Ysgolion
Mae rhai cynghorau sir eisoes wedi cyhoeddi y bydd ysgolion ar gau ddydd Gwener.
Gwynedd
Yng Ngwynedd, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd 65 o ysgolion ar gau ar draws y sir o ganlyniad i'r tywydd garw. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.
Ynys Môn
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi bod pob un o'i ysgolion ar gau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma
Mae Coleg Menai wedi cyhoeddi y bydd holl gampysau'r coleg ar gau ddydd Gwener.
Sir y Fflint
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi bod dwy ysgol ar gau oherwydd yr amodau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma
- Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle
- Ysgol Uwchradd Cei Connah
Conwy
Mae Ysgol Bodafon yn Llandudno ar gau yn sgil y tywydd garw. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.
Sir Ddinbych
Bydd Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, Rhyl hefyd ar gau oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.