Yr Oscars: Emilia Pérez a Wicked yn arwain yr enwebiadau
Emilia Perez a Wicked
Wicked, The Brutalist ac Emilia Pérez yw'r ffilmiau sydd yn arwain yr enwebiadau ar gyfer gwobrau'r Oscars eleni.
Mae’r sioe gerdd Emilia Pérez wedi torri’r record am y nifer fwyaf o enwebiadau Oscar a enillwyd gan ffilm nad yw yn yr iaith Saesneg.
Cafodd y ffilm 13 o enwebiadau yn y cyhoeddiad ddydd Iau – tri yn fwy na Crouching Tiger, Hidden Dragon yn 2001 a Roma yn 2018.
Mae’r sioe gerdd hefyd wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobrau'r actores orau, Karla Sofia Gascon, ac ar gyfer y sinematograffi orau.
Mae’r ffilm Wicked hefyd wedi cael deg o enwebiadau gan gynnwys enwebiad am yr actores orau i Cynthia Erivo, yr actores gefnogol orau i Ariana Grande, yn ogystal ag enwebiadau yn y categorïau sain, golygu, llun, effeithiau gweledol a sgôr gwreiddiol.
Y cyflwynydd teledu, Conan O’Brien fydd yn cyflwyno’r 97ain Oscars eleni ar 2 Mawrth.
Lluniau: Wochit