Gatland yn barod i 'groesawu' Louis Rees-Zammit pe bai'n dychwelyd i rygbi
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi dweud y byddai'n "croesawu" Louis Rees-Zammit yn ôl pe bai'n dychwelyd i chwarae rygbi.
Fe wnaeth yr asgellwr adael y gamp ym mis Ionawr y llynedd er mwyn ceisio ymuno â'r NFL.
Dechreuodd taith Louis Rees-Zammit i'r NFL trwy'r Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol (IPP), sydd yn rhoi llwyfan i athletwyr rhyngwladol chwarae yn yr NFL.
Ymunodd â phencampwyr y gamp, y Kansas City Chiefs cyn arwyddo i'r Jacksonville Jaguars. Ond ar hyn o bryd nid oes ganddo glwb.
Wrth siarad yn lansiad y Chwe Gwlad yn Rhufain, dywedodd Gatland byddai croeso iddo yng ngharfan Cymru pe bai'n dychwelyd.
"Rydym yn aros i weld beth sydd mynd i ddigwydd. Fy nealltwriaeth i yw y bydd yn ail-ymuno â Jackonville.
"Dydw i ddim yn sicr mai hynny sy'n digwydd, ond pryd bynnag mae eisiau dychwelyd bydd croeso iddo yn y garfan.
"Dydw i heb siarad gyda fe yn ddiweddar. 12 mis yn unig mae wedi bod i ffwrdd, felly cawn weld beth sydd yn digwydd o ran y penderfyniadau mae'n ei wneud yn America."
'Penderfyniad mawr'
Ers i Louis Rees-Zammit adael Cymru dyw'r tîm cenedlaethol ddim wedi ennill un gêm ryngwladol.
Fe gollodd Cymru bob un o'u gemau yng nghyfres yr Hydref eleni, gan olygu eu bod wedi colli 12 gêm ryngwladol o'r bron.
Bydd Gatland a'r garfan yn cychwyn ar eu hymgyrch Chwe Gwlad ar 31 Ionawr yn erbyn Ffrainc ym Mharis.
Pe bai Zammit wedi dychwelyd i rygbi y llynedd mae'n debyg byddai wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Gatland.
Ond mae Gatland yn sylweddoli mai breuddwyd Zammit yw chwarae yn yr NFL.
"Pan fyddwch chi'n gwneud penderfyniad mor fawr o ran ceisio dilyn eich breuddwydion, ydy 12 mis yn ddigon i ddweud eich bod chi wedi ymroi yn llwyr? Wn i ddim beth yw'r ateb i hynny.
"Mae yna lawer o straeon amdano allan yna. Rwy’n parhau i ddymuno’r gorau iddo. Fe fyddwn i’n fwy na pharod i’w groesawu yn ôl gyda breichiau agored.”