Newyddion S4C

Llofruddiaethau Southport: 'Terfysgaeth wedi newid' medd Starmer

Y Prif Weinidog, Keir Starmer

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod llofruddiaethau Southport yn dangos yr angen am "newid sylfaenol" yn y modd mae Prydain yn amddiffyn plant.

Mewn datganiad yn Downing Street, dywedodd Syr Keir Starmer bod y marwolaethau yn dangos bod "terfysgaeth wedi newid" gyda "gweithredoedd o drais enbyd yn cael eu gwneud gan bobl sydd yn unig, yn teimlo nad ydyn nhw'n perthyn, dynion ifanc yn eu hystafelloedd gwely".

Ychwanegodd y byddai yn barod i newid y gyfraith os oes angen er mwyn taclo'r "bygythiad newydd a pheryglus" yma.

Dywedodd y dylai'r marwolaethau fod "y tro olaf" mae rhywbeth fel hyn yn digwydd.

Ddydd Llun fe blediodd Axel Rudakubana, a gafodd ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, yn euog i lofruddio tair merch yn Southport y llynedd.

Bu farw Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed, wedi ymosodiad mewn dosbarth dawnsio Taylor Swift ar 29 Gorffennaf. 

Roedd Rudakubana, oedd wedi symud i Banks yn Sir Gaerhirfryn dros ddegawd yn ôl, yn 17 oed ar adeg yr ymosodiad.

'Cwestiynau anodd' 

Dyma oedd yr ymosodiad mwyaf difrifol ar blant yn y DU ers yr ymosodiad yn Dunblane yn 1996, pan gafodd 15 o blant ac athrawes eu lladd mewn ysgol.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn darganfod sut y daeth Rudakubana “i fod mor beryglus”.

Ond dywedodd Syr Keir Starmer na fydd y llywodraeth yn aros nes canfyddiadau'r ymchwiliad cyn dechrau cyflwyno newid. 

Fe ddaeth i'r amlwg ddydd Llun bod Rudakubana wedi cael ei gyfeirio at y rhaglen Prevent, rhaglen gwrthderfysgaeth y llywodraeth, dair gwaith. 

Dywedodd y Prif Weinidog bod hyn yn dangos bod yna fethiannau yn y rhaglen a bod yna "gwestiynau anodd i'w hateb".

Ychwanegodd yn ystod y gynhadledd newyddion nad oedd hi wedi bod yn bosib datgelu unrhyw fanylion am gefndir Rudakubana yn gynharach. 

Byddai hyn, meddai, wedi golygu y gallai'r achos llys fod wedi dymchwel. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.