Lansio cynllun plac glas yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae cynllun wedi cael ei lansio yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddathlu a hyrwyddo treftadaeth y sir.
Bydd y Cynllun Plac Glas yn coffáu ffigyrau pwysig, neu draddodiadau, digwyddiadau, ac adeiladau treftadaeth.
Fe wnaeth cynghorwyr lleol gymeradwyo'r cynllun mewn cyfarfod cabinet ym mis Hydref 2023.
Cafodd ei lansio ym mis Ionawr gyda chyllideb ar gyfer dau blac bob blwyddyn gan yr awdurdod lleol.
Mae 'na hefyd opsiwn i grwpiau neu unigolion lleol ariannu plac glas eu hunain.
Gall unrhyw un gyflwyno cais am enwebiad i'r panel ar-lein.
Bydd argymhellion y panel yn cael eu hadrodd i aelodau’r cabinet cyn penderfyniad terfynol.
'Creu cyfleoedd'
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae placiau glas yn ffynhonnell gwybodaeth, addysg a dathliad.
"Byddant yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol fel llwybrau plac glas a dolenni cod QR i straeon gwefannau am bobl, lleoedd a digwyddiadau arwyddocaol yn ein hanes.
"Mae ganddyn nhw’r gallu i hyrwyddo treftadaeth pob cymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot."
Bydd y placiau sy'n cael eu cymeradwyo yn cael eu gwneud gan y seramegydd Ned Heywood yn ei stiwdio yng Nghas-gwent.
Bydd y ffenestr gyflwyno ar gyfer y ceisiadau cyntaf sy'n cael eu hariannu gan y cyngor ar agor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.