Newyddion S4C

Pauline Quirke yn camu yn ôl o fod yn actores wedi diagnosis o ddementia

Yr actores Pauline Quirke

Mae gŵr Pauline Quirke wedi dweud ei bod hi'n rhoi'r gorau i fod yn actores ar ôl iddi gael diagnosis o ddementia.

Dywedodd Steve Sheen y bydd ei wraig yn ymddeol o'i "dyletswyddau proffesiynol a masnachol" ar ôl iddi gael gwybod bod ganddi'r afiechyd yn 2021.

Mewn datganiad, dywedodd ei fod yn gwneud y cyhoeddiad gyda "chalon drom".

"Mae Pauline wedi bod yn ysbrydoliaeth trwy ei gwaith yn y diwydiant ffilm a theledu, ei hymdrechion elusennol ac fel sylfaenydd Academi berfformio Pauline Quirke (PQA) sydd yn llwyddiannus iawn," meddai.

"Mae ei thalent, ei hymrwymiad a'i gweledigaeth wedi cyffwrdd bywydau nifer ac fe fydd hyn yn parhau trwy ei gwaith a thrwy PQA. 

"Mae ei gweledigaeth a'i harweiniad yno wedi hybu datblygiad a diddordeb nifer o bobl ifanc yn y celfyddydau ac wedi cynyddu eu hunan hyder."

Mae'r actores yn adnabyddus am ei rôl fel Sharon Theodopolopodous yn y gyfres gomedi Birds of a Feather.

Yn 2022 fe gafodd MBE am ei gwaith gydag achosion da, ei chyfraniad i'r diwydiant adloniant a'i gwaith gyda phobl ifanc.

Mae'r cwpl wedi dweud y byddant yn cydweithio gyda'r elusen Alzheimer’s Research UK er mwyn codi ymwybyddiaeth a chodi arian yn y dyfodol. 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.