Gwasanaethau trenau'r gogledd wedi eu heffeithio er bod streic wedi ei gohirio
Fe fydd gwasanaethau trenau yng ngogledd Cymru yn parhau i gael eu heffeithio ddydd Sul, er i streic gan reolwyr cwmni trenau gael ei gohirio.
Fe gyhoeddodd undeb yr RMT ddydd Iau fod streic gan reolwyr Avanti West Coast wedi’i gohirio am y ddau ddydd Sul nesaf sef 19 a 26 o Ionawr.
Dywedodd yr undeb fod y penderfyniad wedi ei wneud i alluogi trafodaethau barhau.
Ond dywedodd y cwmni er bod y streic wedi ei gohirio, oherwydd ei fod ar fyr rybudd “nid yw’n bosib adfer ein hamserlen yn llawn ar gyfer 19 Ionawr, felly bydd gwasanaeth cyfyngedig yn rhedeg”.
Fe fydd y streiciau y tu hwnt i hynny yn parhau, fel mae pethau yn sefyll.
Fe gyhoeddwyd ddechrau’r flwyddyn y bydd y rheolwyr sy'n aelodau o undeb yr RMT yn streicio bob dydd Sul tan 25 Mai, gan eu bod yn anfodlon gyda'u hamodau gwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran RMT fod gohirio’r streiciau yn adlewyrchu “ewyllys da ac ymrwymiad” yr undeb wrth geisio “canfod datrysiad i’r anghydfod.”
Fe fydd amserlen gyfyngedig hefyd yn gweithredu ddydd Sul 26 Ionawr oherwydd gwaith cynnal a chadw ar y rhwydwaith, meddai’r cwmni.
Mae’r cwmni’n cynghori teithwyr i wirio amserlenni cyn dechrau unrhyw daith.