Newyddion S4C

Carcharu pedoffeil o Fangor am anfon lluniau anweddus at blentyn

16/01/2025
Brg

Mae pedoffeil o Fangor a anfonodd luniau a fideos anweddus at blentyn ddyddiau ar ôl gadael y carchar wedi cael ei ddedfrydu.

Fe wnaeth Wayne Barry Williams ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, ar ôl cyfaddef iddo geisio cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn.

Ym mis Rhagfyr 2023, fe wnaeth grŵp dal pedoffiliaid oedd wedi creu proffil ffug ar-lein gysylltu gyda'r heddlu ar ôl bod mewn cyswllt gyda Williams.

Roedd y dyn 34 oed wedi anfon cais ffrind at broffil ffug o ferch 13 oed, a dechreuodd anfon neges at y cyfrif hwnnw, gan ofyn am luniau rhywiol ac anfon delweddau a fideos anweddus ohono'i hun.

Cafodd Williams ei arestio am y drosedd chwe diwrnod ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar am drosedd arall. 

Cafodd ei alw'n ôl i'r carchar am dorri amodau ei drwydded.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis ddydd Iau. 

Cafodd hefyd ei wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol. 

Dywedodd DC Jamie Atkinson o Heddlu'r Gogledd: “Mae Williams wedi profi’n fygythiad i fenywod a merched drwy droseddu’n syth ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

“Mae’n lwcus y tro hwn fod y dioddefwr yn gyfrif ffug, neu fe allai’r canlyniadau fod wedi bod yn ddinistriol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.