2025 yn 'ddechrau newydd' i S4C meddai'r Prif Weithredwr newydd
2025 yn 'ddechrau newydd' i S4C meddai'r Prif Weithredwr newydd
Fe fydd 2025 yn "ddechrau newydd" i S4C meddai Prif Weithredwr newydd y sianel, Geraint Evans.
Dechreuodd Geraint Evans y swydd yn swyddogol ar ddechrau mis Ionawr wedi iddo gael ei benodi ar 12 Rhagfyr.
Roedd yn Brif Weithredwr dros dro am chwe mis ar ôl 18 mis cythryblus i'r sianel.
Ym mis Tachwedd 2023 fe gafodd y Prif Weithredwr ar y pryd, Sian Doyle ei diswyddo wedi honiadau o "ddiwylliant o fwlio" o fewn S4C.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C ddydd Mawrth dywedodd Geraint Evans bod pethau eisoes wedi newid.
“Dwi’n ffyddiog y bydd hi’n ddechrau newydd i S4C yn 2025," meddai.
“Dwi ddim yn credu bod ni’n dechrau nawr, dwi’n credu bod y gwaith o symud ymlaen wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwetha’.
“Mae rhaid i ni gofio bod yr hyn wnaeth ddigwydd yn mynd nôl flwyddyn a hanner erbyn hyn, a dwi’n credu bod S4C heddi’ yn eitha’ gwahanol i beth oedd e ar y pryd."
'Gwrando'
Ychwanegodd Geraint Evans bod y "seilie wedi eu rhoi yn eu lle" er mwyn sicrhau na fydd y darlledwr yn mynd drwy gyfnod tebyg.
“Dyn ni wedi gwneud lot o waith ar ddiwylliant o fewn S4C, ‘dyn ni wedi edrych ar ein gwerthoedd ni a dwi’n credu bod ni ‘di cynnal proses o wrando ar ein gilydd yn uwch dîm yn S4C, yn ogystal â’r staff i gyd," meddai.
Fe ymunodd Geraint Evans â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes. Bu’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C, cyn dod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.
Dywedodd fod penodi rhywun yn fewnol yn gallu bod o fudd i'r sianel wrth symud ymlaen o'r cyfnod cythryblus blaenorol.
“Dwi’n credu, mae’r hyn o’n i’n cynnig i’r bwrdd, ac oedd y broses benodi’n un fanwl gyda’r bwrdd, yn ogystal â’r fforwm staff yn holi’r ymgeiswyr i gyd, o’dd bod ‘na werth mewn dilyniant," meddai.
“Dwi'n credu bod ‘na werth mewn cael rhywun sydd yn 'nabod y diwydiant yn arbennig o dda, sydd wedi bod drwy'r cyfnod diweddar cythryblus ‘ma yn hanes S4C, ac yn gwybod beth sydd angen peidio mynd ‘nôl iddo fe, bod ni felly’n gallu cael y ffocws yn glir a chael y diwylliant yn iawn i ni symud ymlaen."
'Denu cynulleidfa'
Wrth drafod yr heriau sy'n wynebu S4C dywedodd Geraint Evans mai un o'r prif heriau oedd denu cynulleidfa ar nifer o blatfformau gwahanol.
Mae cyrraedd a thyfu cynulleidfa iau yn rhan o strategaeth S4C, ac mae sicrhau bod cynnwys sy'n eu denu ar blatfformau ar-alw a'r cyfryngau cymdeithasol yn un o flaenoriaethau'r darlledwr.
Yn 2024 roedd oriau gwylio S4C ar ddigidol (Clic, iPlayer a YouTube) i fyny +30% yn 2024 o'u cymharu efo 2023, meddai'r darlledwr.
“Yr her yw, sut y’n ni’n gallu denu cynulleidfa i ymwneud gyda chynnwys yn y Gymraeg?" meddai Geraint Evans.
“Wrth gwrs i bob darlledwr, ‘dyn ni’n gwybod bod niferoedd gwylio teledu llinol traddodiadol yn dueddol o fod lawr.
“Yn dweud hynny, mae S4C newydd gael y Nadolig gorau o ran yr holl oriau gwylio ers saith mlynedd, sy’n anghredadwy."
Yn ôl cwmni BARB, dros bythefnos y Nadolig roedd y gwylio ar S4C 50% yn uwch nag ar draws gweddill y flwyddyn.
Er hynny mae Geraint Evans yn cydnabod pwysigrwydd creu cynnwys ar gyfer platfformau eraill hefyd.
“Ond, rhaid i ni beidio jyst cymryd hynny, dwi’n credu bod rhaid i ni adeiladu ar blatfformau eraill fel bod ni’n mynd ati i ddenu cynulleidfa ble bynnag maen nhw eisiau gwylio ein cynnwys ni," meddai.
“Hynny yw ei fod yr un mor bwysig bod gennym ni bresenoldeb a chynnwys ar TikTok, Instagram, YouTube a beth sydd ‘na ar deledu traddodiadol.”