Newyddion S4C

Penodi'r fenyw gyntaf yn Ganghellor Prifysgol Aber

14/01/2025
Y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE. Llun: Liz Isles Photography

Mae barnwr sydd wedi ei phenodi yn Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod y rôl yn gyfle iddi "roi rhywbeth yn ôl i addysg uwch ac i Gymru".

Y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE fydd yn gwneud y swydd, rôl sy'n golygu bod yn llysgennad i'r brifysgol gan gynnwys cynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau mawr fel graddio.

Hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, gan olynu John Thomas, Barwn Thomas Cwmgiedd.

Dywedodd bod cael ei dewis yn "anrhydedd enfawr"a bod addysg wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei bywyd.

"Mae fy ymrwymiad i addysg yn arbennig o bwysig gan ei fod yn rhan ffurfiannol o fy nghefndir," meddai.

"Y blynyddoedd yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr a'm gosododd ar y llwybr i lwyddiant proffesiynol. 

"Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynychu’r brifysgol, ac nid fy nghefndir i oedd yr un 'confensiynol' i berson oedd yn ceisio mynediad i’r Bar.

"Rwy’n gweld y rôl hon fel cyfle i roi rhywbeth yn ôl i addysg uwch ac i Gymru – mae’r ddau wedi bod ac yn dal i fod yn ganolog i fy mywyd a fy nghymeriad."

Y fenyw gyntaf

Cafodd y Fonesig Nicola Davies ei magu yn Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr. Fe aeth i Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr i Ferched ac ar ôl mynd i'r brifysgol fe aeth i weithio fel dadansoddwr buddsoddi yn Llundain. 

Yn 1976 cafodd ei galw i'r Bar ac fe wnaeth hi arbenigo mewn cyfraith feddygol. Fe fuodd hi yn ymwneud gyda nifer o achosion adnabyddus fel Sidway v Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Bethlem, Ymchwiliad i Gam-drin Plant Cleveland ac Ymchwiliad Llawfeddygon y Galon Bryste yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Mae wedi torri tir newydd trwy fod y fenyw gyntaf o Gymru i gael ei phenodi i sawl swydd gan gynnwys Barnwr yr Uchel Lys yn 2010, Barnwr Gweinyddol Cylchdaith Cymru, y Llys Apêl yn 2018 ac yn Foneddiges Ustus Apeliadau.

Llun: Liz Isles Photography

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.