Ymchwilwyr yn Aberystwyth yn dangos bod modd troi gwastraff bara'n fwyd maethlon
Mae gwaith ymchwil newydd gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth wedi dangos bod modd troi gwastraff bara’n fwydydd maethlon.
Mae gwastraff pobi, yn enwedig o fara, yn bryder mawr byd-eang meddai'r ymchwilwyr.
Ar hyn o bryd mae tua 10% o'r 185 miliwn tunnell o fara sy'n cael ei bobi bob blwyddyn yn cael ei wastraffu, yn bennaf mewn archfarchnadoedd a phobyddion masnachol.
Er bod y rhan fwyaf o'r gwastraff hwn yn ddiogel i'w fwyta, gyda rhywfaint yn cael ei ddosbarthu drwy elusennau, ni ellir ei werthu'n fwy cyffredinol.
Yr astudiaeth newydd yw'r tro cyntaf i academyddion ddangos y gall glaswellt a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer cadw da byw eplesu ('ferment') yn llwyddiannus gyda bara gan ffyngau i wneud gwahanol broteinau.
Mae’r broses newydd yn cyfuno bara dros ben gyda sudd o laswellt wedi'i wasgu sy'n llawn maetholion a phrotein ar gyfer tyfiant ffwngaidd.
O wastraff bara i fwyd llawn maeth
Gallai'r protein amgen y gellir ei gynhyrchu ohono ymddangos ar blatiau miliynau o bobl, gan gynnwys mewn bara cyfnerthedig, pasteiod porc neu selsig.
Dywedodd Dr David Bryant o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol iawn a fydd, gobeithio, yn mynd i’r afael â’r broblem fyd-eang gynyddol o wastraff bwyd.
"Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod yn iawn faint o broblem yw gwastraff bara - o'r tost sy'n cael ei daflu amser brecwast neu ein brechdanau heb eu bwyta.
"Ond nid dyna’r holl broblem – mae llawer yn cael ei wastraffu’n fasnachol ym maes gweithgynhyrchu a manwerthu hefyd.
“Mae’r ymchwil hwn yn rhoi ffordd i ni fynd i’r afael â’r broblem honno drwy eplesu. Y defnydd o laswellt sy'n gwneud y canfyddiadau hyn yn rhai sy’n torri tir newydd. Gwychder y dull hwn yw y gall ddefnyddio planhigyn bob dydd i droi gwastraff yn fathau newydd o fwyd ar gyfer poblogaeth gynyddol y byd.”
Mae'r math o ffyngau a ddefnyddir yn eplesiad newydd y gwyddonwyr eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gynhyrchu tempeh, sy’n cael ei wneud o soya wedi ei goginio a’i eplesu ac yn cael ei ddefnyddio yn lle cig, a’i fwyta'n eang mewn rhannau o Asia.
Gan ddefnyddio’r cyfleusterau bioburo ar raddfa beilot yn ArloesiAber ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, mae’r datblygiad gwyddonol arloesol hwn yn manteisio ar eplesu cyflwr solet, sy’n fwy ecogyfeillgar ac yn cynhyrchu llai o ddŵr gwastraff na dulliau eraill.
'Dulliau arloesol'
Dywedodd yr Athro Anne Ferguson-Smith, Cadeirydd Gweithredol y BBSRC:
"Mae mabwysiadu dulliau arloesol fel hyn nid yn unig yn helpu i frwydro yn erbyn gwastraff bwyd ond hefyd yn arloesi mewn ffyrdd newydd o gynnal ein poblogaeth gynyddol gyda dewisiadau maethlon eraill.
"Mae'r ymchwil diweddaraf hwn gan IBERS, un o sefydliadau ymchwil a gefnogir yn strategol gan BBSRC, yn crynhoi'r math o wyddoniaeth drawsnewidiol y mae BBSRC yn buddsoddi ynddi i feithrin systemau bwyd cynaliadwy a gwydn ledled y Deyrnas Gyfunol a ledled y byd.
"Mae'r potensial o droi gwastraff bob dydd yn adnoddau bwyd gwerthfawr yn gyfle y mae'n rhaid i ni fanteisio arno os ydym am sicrhau ein cyflenwad bwyd byd-eang yn llwyddiannus nawr ac yn y dyfodol.”
Wrth i'r astudiaeth barhau, bydd ymchwilwyr yn ystyried sut y gallant newid y blasau a gwella blas y proteinau amgen a gynhyrchir gan yr eplesiad.