Newyddion S4C

Canada yn rhan o’r Unol Daleithiau? 'Dim diolch', medd un Gymraes

12/01/2025
Trump / Myfanwy Davies

Mae Donald Trump “wedi corddi” pobl yng Nghanada drwy awgrymu y dylai’r wlad ddod yn rhan o’r Unol Daleithiau, yn ôl Cymraes sydd wedi mabwysiadu’r wlad fel cartref.

Mae’r darpar arlywydd Trump wedi codi gwrychyn nifer drwy ddweud ei fod yn ystyried defnyddio ‘grym economaidd’ er mwyn uno’r ddwy wlad, pan fydd yn cychwyn ar ei ail dymor fel arlywydd y wlad pen ychydig dros wythnos.

Mae hefyd wedi rhannu delwedd ar y cyfryngau cymdeithasol o’r ddwy wlad wedi’u gorchuddio gyda baner yr Unol Daleithiau gyda’r neges ‘Oh Canada’.

Dywedodd Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, yn gynharach wythnos yma nad oedd yna “siawns pelen eira yn uffern” y byddai hynny yn cael ei wireddu.

Mewn arolwg diweddar yng Nghanada, fe wnaeth 82% o bobl ddweud eu bod o blaid cadw annibyniaeth y wlad, tra bod 13% eisiau gweld Canada yn ymuno â’u cymdogion fel y 51fed dalaith.

“Mae hyn wedi ein corddi ni braidd,” meddai Myfanwy Davies, sy’n byw yn y brifddinas Ottowa.

“Pan wnaeth Trump awgrymu’n wreiddiol gwneud Canada yr 51fed dalaith, fe wnaeth lot o bobl ystyried y peth fel jôc. Mae’n dweud lot o bethau mawr a dy’ch chi byth yn siŵr os mae o ddifri neu beidio.

“Ond bob tro mae’n siarad mewn cynhadledd bellach, mae’n codi’r peth unwaith eto ac mae’n ein poeni ni.”

'Debyg i'r sefyllfa yng Nghymru'

Mae’r ddwy wlad yn rhannu’r berthynas fasnachol fwyaf yn y byd, gyda $3 biliwn yn cael ei gyfnewid pob dydd.

Er bod Canada yn fwy na America o’r rhan maint, mae poblogaeth yr Unol Daleithiau (334 miliwn) lawer iawn yn uwch na’i chymdogion (40 miliwn).

Ac yn ôl Ms Davies, mae’n anodd osgoi'r dylanwad Americanaidd.

“Mae’r cyfryngau yma llawn bethau o America. Mae ‘na ryw 400 o sianeli ar ein teledu yma, ac mae o leiaf 300 ohonynt yn rai Americanaidd. Mae’n anodd dod o hyd i gynnwys o Ganada yn aml.

“Mae’n debyg i’r sefyllfa yng Nghymru, le mae’r rhan fwyaf o sianeli yn dod o Loegr. Mae gennych chi S4C, ond ar y cyfan, mae’r mwyafrif helaeth o Loegr.”

Gwreiddiau

Cafodd Ms Davies ei geni ym Mhont-y-pŵl, ond fe symudodd i Ganada gyda’i theulu yn 1961, le mae hi wedi aros, oni bai am gyfnod byr dros y ffin yn Virginia.

Mae hi’n ymweld â Chymru yn aml, ac ar ei thaith fwyaf diweddar, fe fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

Image
Myfanwy
Myfanwy Davies gyda Rhys Meirion a Robat Arwyn

Ac er ei balchder amlwg o’i gwreiddiau Cymreig, mae hi hefyd yn ymfalchïo yn yr hyn sydd yn ei gwneud yn ddinesydd Canada.

“Pe bydden nhw’n ceisio gwneud ni yn diriogaeth heb rym fel Puerto Rico neu Guam, mi fyddai hynny yn broblem fwy difrifol.

"Mae pobl Canada yn dweud ‘Na, ni fyddwch chi yn cael rheoli drosom ni, rydyn ni yn rheoli ein hunain.’

“Fe fyddai hynny yn eitha tebyg i sefyllfa Cymru cyn y Senedd, gyda Lloegr yn gosod yr holl reolau a bod gan Gymru ddim llais.

"Hyd yn oed yn Senedd San Steffan, roedd cyn lleied o aelodau o Gymru o gymharu, felly doedd dim lot o bŵer ganddynt.

Fe ychwanegodd: “Y gobaith yw pan mae’n cael ei urddo, bydd yna gymaint o broblemau eraill i ddelio gyda, bydd yn anghofio am hyn a gawn ni fynd nôl i neud be' da ni’n neud, sef chwarae hoci iâ, clirio eira, sglefrio a just mwynhau bywyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.