Ffermwr o Geredigion a gododd £50,000 yn ystod y pandemig wedi marw yn 95 oed
Mae ffermwr o Geredigion a gerddodd o gwmpas ei dŷ 91 o weithiau ar ei ben-blwydd yn 91 oed er mwyn codi arian yn ystod y pandemig wedi marw.
Bu farw Rhythwyn Evans o bentref Silian yn ei gartref “gyda’i deulu o’i gwmpas” yn 95 oed ddydd Gwener, medd teyrnged iddo.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fab Dai Charles Evans y bu farw “wedi oes hapus, hir ac iechyd bendigedig hyd y misoedd diwetha.”
Ar 18 Ebrill 2020, fe ddathlodd Mr Evans ei ben-blwydd yn 91 wrth gerdded o gwmpas ei dŷ ar fferm Tan-y-Graig yr un nifer o weithiau a’i oedran er mwyn codi arian tuag at y Gwasanaeth Iechyd.
Ag yntau wedi’i ysbrydoli gan ymgyrch codi arian tebyg gan Gapten Tom Moore a gerddodd ar hyd ei ardd 100 o weithiau cyn ei ben-blwydd yn 100 oed, fe lwyddodd i godi dros £50,000 ar gyfer elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1251436051295539200
Roedd Mr Evans wedi treulio cyfnod yn ysbytai Bronglais a Thregaron, yn ogystal â chartref gofal Allt y Mynydd yn Llanybydder cyn iddo ddychwelyd adref yr wythnos diwethaf.
Roedd yn rhaid iddo dderbyn gofal yn yr ysbyty wedi iddo gwympo yr haf diwethaf, medd ei fab.