Treisiwr o ogledd Cymru yn pledio’n euog i ymosodiad rhyw mewn toiledau ysbyty
Mae treisiwr 38 oed a wnaeth ymosod yn rhywiol ar ddynes mewn toiledau ysbyty yn y gogledd yn wynebu’r posibilrwydd o ddedfryd oes yn y carchar.
Fe wnaeth Lee James Mullen, o Stryd yr Eglwys, Y Fflint, bledio’n euog i ymosodiad rhyw ar ddynes ac achosi niwed corfforol yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ar 10 Rhagfyr.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, dywedodd y bargyfreithiwr David Mainstone ar ran yr erlyniad: “Fe ddylwn ystyried os y dylai dedfryd oes gael ei roi.”
Roedd gan Mullen hanes o droseddau rhyw ar ôl derbyn dedfryd 11 mlynedd yn 2015 am dreisio dynes ar ôl ei chlymu.
Dywedodd Mr Mainstone bod Mullen wedi dyrnu’r dioddefwr sawl tro cyn yr ymosodiad yn yr ysbyty.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands: “Mae’n rhaid bod hwn wedi bod yn brofiad erchyll.
“Mae’r achos yn un difrifol iawn, un sydd yn cael ei waethygu ar ôl yr euogfarn flaenorol yn 2015.
“Fe fydd y llys yn edrych ar ddedfryd warchodol yn yr achos hwn. Mae angen adroddiad llawn i asesu’r perygl.”
Dywedodd wrth Mullen: “Mae’n achos sydd yn fwy difrifol byth oherwydd dy hanes troseddol, a’r achos yn 2015.
“Rydym angen deall yr effaith mae dy droseddu wedi cael ar y dioddefwraig a’i theulu, a’r anafiadau y mae wedi dioddef.”
Fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ei ble o fod yn ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu maes o law ar ôl adroddiad cyn dedfryd gael ei gwblhau.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru