Carcharu dyn o Fangor am ymosodiad rhyw ar stryd yng nghanol dydd
Mae dyn 40 oed o Fangor wedi cael ei garcharu am ymosodiad rhyw ar ddynes mewn stryd.
Fe wnaeth Gethin Jones, o Ffordd Garth, Bangor, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener ar ôl cyfaddef i'r drosedd.
Ar 18 Rhagfyr aeth Jones at ddynes nad oedd yn ei hadnabod a rhoi ei freichiau o amgylch ei hysgwyddau, gan geisio ei harwain i lawr lôn gyfagos.
Dechreuodd wneud sylwadau rhywiol tuag ati gan godi ofn arni am ei diogelwch.
Ceisiodd y ddynes gerdded i ffwrdd, ond dilynodd hi, gan wneud sylwadau am ei thatŵs a cheisio cyffwrdd â hi gan barhau i wneud sylwadau rhywiol tuag ati.
Gwelodd y ddynes griw o bobl gerllaw a rhedodd atyn nhw gan wneud i Jones redeg i ffwrdd.
Cafodd ei garcharu am 18 mis a chafodd ei wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Dros Dro Andrew Davies: “Ein blaenoriaeth yw mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Rwy’n canmol y dioddefwr a oedd yn hynod ddewr yn ystod profiad brawychus a ddigwyddodd yng nghanol dydd.
“Does dim amheuaeth y bydd y digwyddiad hwn yn cael effaith barhaol ar ei theimlad o ddiogelwch.
“Rwy’n cefnogi’r defnydd o’r Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol sy’n gwahardd Jones rhag mynd at fenywod ac aflonyddu arnynt yn y dyfodol.”