Newyddion S4C

Pêl-droed: Gêm y Bala v Caernarfon i gael ei chwarae yn Llandudno

Chwaraewyr Y Bala yn dathlu sgorio yn erbyn Penybont

Mae'r gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon yn y JD Cymru Premier ddydd Sadwrn wedi ei symud i Landudno.

Cafodd y gêm ei gohirio deirgwaith o fewn 10 diwrnod o achos gwynt, glaw a thywydd gaeafol ym Maes Tegid yn y Bala.

Ar ôl cael ei gohirio ar ddyddiad gwreiddiol y gêm, sef 31 Rhagfyr, cafodd y gêm ei gohirio unwaith eto ar 3 Ionawr oherwydd bod y cae ym Maes Tegid wedi rhewi.

Cafodd y gêm ddarbi ei hail-drefnu ar gyfer nos Fawrth 7 Ionawr - ond ar ôl i'r tymheredd ostwng unwaith eto, cafodd y gêm ei gohirio am y trydydd tro mewn 10 diwrnod oherwydd bod y cae wedi rhewi.

Mae'r gêm bellach wedi ei hail-drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 11 Ionawr am 12.45 - ac y bydd yn cael ei dangos yn fyw gan Sgorio.

Mae'r ail-drefnu wedi cael sgil effeithiau ar weddill gemau'r penwythnos, a hynny ar gyfnod tyngedfennol yn y Cymru Premier.

Yn wreiddiol, roedd dydd Sadwrn 11 Ionawr wedi ei neilltuo ar gyfer y gemau olaf cyn hollt y gynghrair.

Roedd hyn yn golygu fod pob tîm yn chwarae'r un pryd, fel nad oedd unrhyw dîm yn derbyn mantais o wybod beth oeddent eu hangen er mwyn cyrraedd safle penodol.

Ond gan fod y gêm rhwng Bala v Caernarfon wedi ei wthio i'r penwythnos hwn, mae'n golygu bydd sawl gêm oedd wedi'u trefnu ar gyfer ddydd Sadwrn, bellach yn cael eu chwarae nos Fawrth 14 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.