Farage a Reform yn gwadu torri rheolau wedi honiadau am roddion o dramor
Mae Nigel Farage wedi gwadu fod Reform UK wedi torri unrhyw gyfraith na derbyn "unrhyw arian amheus" wedi honiadau newydd fod y blaid wedi torri rheolau rhoddion gwleidyddol.
Fore dydd Gwener, cyhoeddodd Reform fod dau swyddog dylanwadol, James Orr a Dan Jukes, wedi camu i'r neilltu wrth aros am ganlyniad ymchwiliad y blaid i'r honiadau gafodd eu darlledu ar raglen Channel 4 News nos Iau.
Mae'r ddau yn ymgynghorwyr i Mr Farage, gydag Orr yn bennaeth polisi ar y blaid.
Wrth annerch cynhadledd y blaid yn Birmingham ddydd Gwener, dywedodd Mr Farage fod yr honiadau wedi eu gwneud gan "eu bod nhw'n ein hofni ni."
Yr honiadau
Mae pleidiau eraill wedi cysylltu gyda'r heddlu yn dilyn honiadau yn yr ymchwiliad gan Channel 4 News bod Reform wedi derbyn cyllid gan gwmni o'r Unol Daleithiau ar gyfer cynnal tri arolwg barn a gomisiynwyd gan Reform yn gynharach eleni, a gostiodd £32,500.
Nid yw cwmnïau tramor yn cael bod yn ffynhonnell gyfreithlon o gyllid i bleidiau - gan gynnwys taliadau am astudiaethau ac ymchwil - ac fe allai derbyn rhoddion ganddynt fod yn drosedd.
Gohebwyr cudd o'r grŵp ymchwiliol Verbatim oedd y rhai oedd yn rhoi'r arian, gan esgus bod yn gefnogwr ariannol Americanaidd oedd gyda mab oedd yn byw yn y DU.
Mae Reform wedi gwadu unrhyw gamymddwyn ac wedi mynnu bod ganddynt "broses wirio gadarn" mewn lle ar gyfer derbyn rhoddion.
"Mae’r blaid yn credu ei bod hi’n bwysig bod yr ymchwiliad yn cael bwrw ymlaen yn annibynnol ac heb ragfarn. Ni wneir unrhyw sylw pellach tra bo’r ymchwiliad yn mynd rhagddo,” meddai llefarydd.
Yn siarad ar orsaf radio LBC, dywedodd Mr Farage bod "dim byd anghyfreithlon" wedi digwydd a bod y blaid "ddim wedi cymryd unrhyw arian amheus."
Aeth ymlaen i gyhuddo ymchwilwyr grŵp Verbatim o dwyllo'r ddau swyddog ("entrapment") a'u hannog i ddweud "pethau efallai na ddylen nhw wedi eu dweud."
Protestwyr yn amharu ar araith
Cafodd araith Mr Farage yn ddiweddarach yng Nghynhadledd y blaid ei hoedi wedi i araith ei ddirprwy, Richard Tice, gael ei hamharu gan faner yn cyfeirio at ei agweddau tuag at newid hinsawdd. Cymerodd ymgyrchwyr Greenpeace gyfrifoldeb am y brotest.
Fe gafodd protestwyr eraill eu hebrwng allan o'r ystafell yn ystod araith anerchiad Mr Farage hefyd. Amddiffynnodd y gwleidydd ei hun a'i blaid yn ystod yr araith, gan gyfeirio at yr honiadau o raglen Channel 4.
"Dyw Reform ddim wedi torri yr un gyfraith," meddai wrth y ffyddloniaid, gan ychwanegu bod y blaid yn cymryd y rheolau cydymffurfio "o ddifrif."
"A gofynnwch i'ch hunain, pam fod hyn i gyd yn digwydd? Oes gan unrhyw un syniad pam fod hyn yn digwydd? Am eu bod nhw'n ein hofni ni."
'Cwestiynau brawychus'
Ond mae gwrthwynebwyr Reform wedi gofyn am esboniadau ac ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.
Galwodd Cadeirydd y Blaid Lafur, Bridget Phillipson, ar Mr Farage a'i dîm i "brofi ar frys" nad oeddent wedi "torri'r gyfraith a chynllwynio'n gyfrinachol i danseilio ein democratiaeth".
Mewn llythyr at Heddlu'r Met yn Llundain, dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion Swyddfa'r Cabinet, Lisa Smart, fod yr honiadau'n codi "cwestiynau brawychus ynghylch a fu diffyg pryder digonol - neu hyd yn oed anwybyddu - ymyrraeth dramor gan yr unigolion dan sylw".
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol eu bod wedi cysylltu â Heddlu'r Met a bod "yr holl wybodaeth berthnasol" dan ystyriaeth.
Yn ogystal â Mr Farage, mae Dan Jukes - un o'r ddau a gamodd o'u swyddi - wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd cadeirydd Reform UK, Lee Anderson, wrth Sky News nad oedd “unrhyw obaith” i'r ddau ddychwelyd i’r blaid. Ond gwrthododd Mr Tice, dirprwy Nigel Farage, â diystyru hynny mewn cyfweliad diweddarach.
Prif lun: Stefan Rousseau/PA