Newyddion S4C

Caerdydd: Person wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

M4 Caerdydd

Mae person wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ger Porth Caerdydd wrth gyffordd 30 y briffordd i gyfeiriad y dwyrain.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 03:30 fore dydd Iau.

Bu farw gyrrwr car Honda Accord yn y digwyddiad. 

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Ychwanegodd y llu bod y llain adael i gyfeiriad y dwyrain wedi cau am rai oriau wrth iddynt ymchwilio i'r digwyddiad.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.