Newyddion S4C

Rhybudd defnyddio sawnau ar ôl i ddynes gael ataliad ar y galon

08/01/2025
Sawna

Mae pobl sydd yn defnyddio sawnau wedi cael eu rhybuddio i wneud yn siŵr eu bod yn yfed digon o ddŵr ar ôl i fenyw ddioddef trawiad gwres difrifol ar ôl bod yn y sawna yn rhy hir.

Fe fuodd yn rhaid i'r ddynes aros yn yr ysbyty am 12 diwrnod ar ôl i'r trawiad gwres achosi nifer o broblemau iechyd difrifol gan gynnwys ataliad ar y galon meddai arbenigwyr o Ysbyty Birmingham Heartlands.

Dim ond tua 10 o achosion o drawiadau gwres sydd yn gysylltiedig gyda sawnau sydd wedi eu cofnodi.

Cafodd y ddynes yn ei 70au cynnar nifer o anafiadau eraill gan gynnwys i'w iau ac aren.

Cafodd y ddynes, sydd ddim wedi ei henwi, ei darganfod yn anymwybodol yn y sawna yn ei champfa leol.

Roedd hi wedi bod yn gwneud ymarferion ymestyniadau am tua 45 munud cyn iddi fynd mewn i'r sawna ac yn defnyddio'r gampfa yn gyson.

'Heb yfed digon'

Fe ddywedodd y parafeddygon wnaeth ei thrin fod ganddi dymheredd o 42C a pan wnaeth hi gyrraedd yr adran frys fe gafodd hi ataliad.

Roedd ganddi hanes o ddiabetes math 1 a phroblemau thyroid yn barod.

Ddwy awr ar ôl i dymheredd ei chorff ddod yn ôl i'r tymheredd normal fe wnaeth hi ddeffro. Ond fe ddangosodd profion pellach ei bod wedi cael anaf difrifol i'w aren a'i iau.

Fe welodd y meddygon y ddynes 26 diwrnod wedyn ac roedd hi'n dal i ddioddef gyda blinder.

Wrth ysgrifennu yn y papur BMJ Case Reports dywedodd y meddygon mai'r diagnosis mwyaf tebygol oedd "trawiad gwres gyda sawl organ wedi methu".  

Dywedodd y ddynes fod ei phrofiad yn tanlinellu peryglon sawnau a pha mor bwysig yw yfed digon wrth fynd i mewn.

"Fel person sydd yn defnyddio sawnau yn gyson dwi erioed wedi cael unrhyw broblem. Ond wrth edrych yn ôl dwi'n credu nad oeddwn i wedi yfed digon o ddŵr.

"Dwi'n falch i ddweud fy mod yn teimlo yn dda ac mae'n ymddangos mod i wedi gwneud adferiad llwyr." 

Llun: HUUM ar Unsplash.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.