Newyddion S4C

Caerdydd ymhlith dinasoedd sy’n mynd yn iau medd ymchwil

Siopwyr Caerdydd

Mae Caerdydd ymhlith dinasoedd mawr ym Mhrydain sydd â phoblogaeth sy’n mynd yn iau yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl dadansoddiad gan felin drafod y Resolution Foundation, mae’r hyn maen nhw’n ei alw’n “ddinasoedd craidd” fel Caerdydd, Bryste, Belfast a Glasgow wedi gweld oedrannau cyfartalog yn disgyn ychydig o 35 yn 2001 i 34.5 yn 2023.

Mae’r felin drafod wedi selio’r ymchwil ar ddata’r Swyddfa Ystadegau gwladol sydd hefyd yn dangos mai Llundain yw’r unig ddinas fawr yn y DU sy’n heneiddio.

Fe welodd Llundain ei hoedran cyfartalog yn codi mewn ychydig dros ddegawd, o 33.8 yn 2011 i 35.8 yn 2023.

Mae mudo ôl-Brexit a chyfraddau genedigaethau’n gostwng yn gyfrifol am hyn, yn ôl y dadansoddiad newydd.

Mae gwahaniaethau oedran mewn ardaloedd yn y DU wedi datblygu dros ddau ddegawd cyntaf yr 21ain ganrif, yn ôl yr ymchwil.

Goblygiadau dwys

Dywedodd y mudiad fod hyn wedi arwain at “fylchau demograffig mawr sy’n ehangu rhwng lleoedd”. Mae disgwyl i ardaloedd arfordirol a gwledig barhau i heneiddio’n gyflym, tra dylai dinasoedd aros yn gymharol ifanc gan fod myfyrwyr a phobl iau yn tueddu i symud yno.

Dros ddau ddegawd, mae oedran nodweddiadol pentrefi wedi cynyddu bron i chwe blynedd, o 41.6 yn 2001 i 47.4  yn 2023.

Yr awgrym yn yr adroddiad yw bod ymfudwyr rhyngwladol iau ers Brexit wedi dechrau ymgartrefu mewn dinasoedd mawr eraill heblaw am Llundain. Mae hyn wedi arwain at ddosbarthiad mwy cyfartal o’r grŵp hwn.

Noda'r ymchwil hefyd bod cyfraddau genedigaethau is yn genedlaethol a bod cyfraddau genedigaethau yn Llundain wedi gostwng yn is yn ystod y 2010au.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio wrth i’r DU barhau i heneiddio, y gallai fod “goblygiadau dwys i wasanaethau cyhoeddus” fel ysgolion a gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.