Llifogydd yn achosi difrod i adeiladau yn Llanwrtyd
Cafodd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i i ardal Teras Belle Vue yn Llanwrtyd nos Sul, yn dilyn adroddiad o lifogydd.
Fe wnaeth criwiau o Orsafoedd Tân Llanwrtyd, Llanymddyfri a Llanfair ym Muallt gael eu galw i’r ardal yn dilyn dŵr yn llifo i mewn i sawl adeilad, gan gynnwys i lawr gwaelod gwesty.
Cafodd y llifogydd ei achosi gan gylfat a gwympodd.
Defnyddiodd y criwiau nifer o bympiau a phibellau i gael gwared a dargyfeirio’r dŵr o’r eiddo.
Roedd staff y cyngor hefyd yn bresennol ac yn cyflenwi bagiau tywod i helpu i ddargyfeirio’r dŵr.
Llwyddodd y Gwasanaeth Tân i bwmpio y dŵr o’r adeiladau, cyn i'r gwaith clirio gael ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol.
Gadawodd y criwiau’r safle am 00:26 fore dydd Llun.