Tîm Achub Mynydd Llanberis yn achub tri pherson 'heb ddiod neu offer' ar ddydd Nadolig
27/12/2024
Roedd yn rhaid i wirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd Llanberis gadael eu teuluoedd ar ddydd Nadolig er mwyn achub grŵp o bobl aeth ar goll wrth ddringo Crib Goch.
Fe aeth y criw i helpu tri pherson aeth ar goll ar lwybr Pyg, sef llwybr creigiog i fyny’r Wyddfa, am 18:00 nos Fercher.
Roedd y grŵp o bobl wedi mynd ar goll ar hyd y llwybr yn y tywyllwch, meddai Tîm Achub Mynydd Llanberis.
"Nid oedd flachlampau pen neu offer dringo addas ganddyn nhw," meddai’r tîm.
Doedd ganddyn nhw ddim bwyd ‘na ddiod chwaith, ychwanegodd.